- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
19 Mawrth 2003
Yn dod i rym
1 Ebrill 2003
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) yn Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n ei hystyried hi'n briodol er budd y gwasanaeth iechyd i wneud y Gorchymyn hwn(4)), ac ar ôl cyfnod ymgynghori a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf hon(5), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003.
2. Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992(6), ac yn unol â hynny dirymir drwy hyn y Gorchymyn hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
19 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu ar 1 Ebrill 2003 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd ar 16 Tachwedd 1992.
1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990” ) a chan adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995 ”) a pharagraff 57 yn Atodlen 1 iddi.
1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) gan adran 65(2), adran 13(1)(a) a (10) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ac Atodlen 5 iddi, ac adran 2(1) o Ddeddf 1995 a pharagraff 69(b) yn Atodlen 1 iddi.
Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.
Gweler paragraff 29(2)(b) yn Atodlen 2 i Ddeddf 1990.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: