Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 817 (Cy.102)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003

Wedi'i wneud

19 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) yn Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n ei hystyried hi'n briodol er budd y gwasanaeth iechyd i wneud y Gorchymyn hwn(4)), ac ar ôl cyfnod ymgynghori a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf hon(5), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003.

Diddymu Ymddiriedolaeth GIG

2.  Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992(6), ac yn unol â hynny dirymir drwy hyn y Gorchymyn hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D.Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

19 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu ar 1 Ebrill 2003 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd ar 16 Tachwedd 1992.

(1)

1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990” ) a chan adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995 ”) a pharagraff 57 yn Atodlen 1 iddi.

(2)

1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) gan adran 65(2), adran 13(1)(a) a (10) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ac Atodlen 5 iddi, ac adran 2(1) o Ddeddf 1995 a pharagraff 69(b) yn Atodlen 1 iddi.

(3)

Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.

(4)

Gweler paragraff 29(2)(b) yn Atodlen 2 i Ddeddf 1990.