- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu a disodli Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1470 (Cy.172)). Mae'n newid y darpariaethau yn y Gorchymyn hwnnw fel a ganlyn —
mae'n darparu gofynion penodol ynglŷn â glanhau a diheintio ar gyfer cludo ceffylau (erthygl 5);
mae'n gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer y sefyllfa lle mae cyfrwng cludo yn ymadael â lladd-dy neu safle gwerthu (erthygl 8); ac
mae'n darparu ar gyfer glanhau a diheintio olwynion, gardiau olwynion a bwâu olwynion cyfrwng cludo (paragraff 2(3) o Atodlen 2).
Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer glanhau a diheintio (yn unol ag Atodlen 2) cyfrwng cludo cyn bod anifeiliaid penodedig yn cael eu cludo ac ar ôl hynny (erthyglau 3, 4 a 5, ac Atodlen 1).
Mae'n darparu nad oes rhaid diheintio cabiau gyrwyr (erthygl 6).
Mae erthygl 7 yn pennu'r ffordd y mae'n rhaid cael gwared ar ddeunydd sydd wedi cael ei symud o gyfrwng cludo ar ôl glanhau'r cyfrwng hwnnw.
Mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr roi datganiadau ysgrifenedig sy'n pennu ym mha le y bydd y glanhau a'r diheintio yn digwydd pan fydd cyfryngau cludo (nad ydynt yn cludo anifeiliaid) yn ymadael â lladd-dai neu safleoedd gwerthu.
O dan erthygl 9, awdurdodir arolygydd, yn yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.
Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 10).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: