(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu a disodli Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1470 (Cy.172)). Mae'n newid y darpariaethau yn y Gorchymyn hwnnw fel a ganlyn —

  • mae'n darparu gofynion penodol ynglŷn â glanhau a diheintio ar gyfer cludo ceffylau (erthygl 5);

  • mae'n gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer y sefyllfa lle mae cyfrwng cludo yn ymadael â lladd-dy neu safle gwerthu (erthygl 8); ac

  • mae'n darparu ar gyfer glanhau a diheintio olwynion, gardiau olwynion a bwâu olwynion cyfrwng cludo (paragraff 2(3) o Atodlen 2).

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer glanhau a diheintio (yn unol ag Atodlen 2) cyfrwng cludo cyn bod anifeiliaid penodedig yn cael eu cludo ac ar ôl hynny (erthyglau 3, 4 a 5, ac Atodlen 1).

Mae'n darparu nad oes rhaid diheintio cabiau gyrwyr (erthygl 6).

Mae erthygl 7 yn pennu'r ffordd y mae'n rhaid cael gwared ar ddeunydd sydd wedi cael ei symud o gyfrwng cludo ar ôl glanhau'r cyfrwng hwnnw.

Mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr roi datganiadau ysgrifenedig sy'n pennu ym mha le y bydd y glanhau a'r diheintio yn digwydd pan fydd cyfryngau cludo (nad ydynt yn cludo anifeiliaid) yn ymadael â lladd-dai neu safleoedd gwerthu.

O dan erthygl 9, awdurdodir arolygydd, yn yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.

Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 10).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.