Search Legislation

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1968 (Cy.213)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003

Wedi'i wneud

29 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

1 Awst 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 37, 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso ac estyn diffiniadau

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2003.

(2At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn —

(a)mae'r diffiniad o anifeiliaid (“animals”) yn is-adran (1) o adran 87 o'r Ddeddf honno yn cael ei estyn i gynnwys pob mamal ac eithrio dyn;

(b)mae'r diffiniad o ddofednod (“poultry”) yn is-adran (4) o adran 87 o'r Ddeddf honno yn cael ei estyn i gynnwys pob aderyn;

(c)mae'r diffiniad o glefyd yn is-adran (1) o adran 88 o'r Ddeddf honno yn cael ei estyn i gynnwys pob clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid; ac

(ch)mae'r diffiniad o glefyd yn is-adran (3) o adran 88 o'r Ddeddf honno yn cael ei estyn i gynnwys pob clefyd sy'n effeithio ar ddofednod.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn —

mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys aderyn;

ystyr “cyfarpar” (“equipment”) yw unrhyw gyfarpar sy'n cael ei gludo gyda chyfrwng cludo i'w ddefnyddio gydag anifeiliaid;

mae “cyfrwng cludo” (“means of transport”) yn cynnwys ei ffitiadau, ei rannau datodadwy ac unrhyw gynhwysyddion (p'un a ydynt yn ddatodadwy ai peidio) sy'n cael eu defnyddio gydag ef;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw unrhyw adeilad, safle neu le (ac eithrio cyfleuster trafod adar hela wedi'u ffermio) ar gyfer cigydda anifeiliaid y bwriedir gwerthu eu cnawd ar gyfer ei fwyta gan bobl, ac mae'n cynnwys unrhyw le sydd ar gael mewn cysylltiad ag adeilad, safle neu le o'r fath ar gyfer caethiwo anifeiliaid tra byddant yn aros yno i gael eu cigydda; ac

ystyr “safle gwerthu” (“sale premises”) yw safle sydd wedi'i drwyddedu o dan Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003(2).

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu unrhyw bryd mewn ysgrifen.

Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo anifeiliaid carnog a dofednod

3.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo —

(a)anifeiliaid carnog, ac eithrio ceffylau;

(b)colomennod rasio; ac

(c)y canlynol, os cânt eu magu neu eu cadw mewn caethiwed ar gyfer bridio, cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta, neu er mwyn ailstocio cyflenwadau adar hela: ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl,

ac mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at “anifail” i gael eu dehongli yn unol â hynny.

(2Yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1, gofynion erthygl 4 sydd yn gymwys yn lle gofynion yr erthygl hon.

(3Rhaid i ddefnyddiwr unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a heb fod yn fwy na 24 awr ar ôl cwblhau'r daith, sicrhau bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 neu (yn achos cynhwysydd) eu dinistrio.

(4Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i gyfrwng cludo gael ei ddefnyddio, i gludo unrhyw anifail onid yw'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers y tro diwethaf iddynt gael eu defnyddio i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd.

(5Os yw cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar wedi ei faeddu fel y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd ers y tro diwethaf iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio, ni chaiff neb lwytho anifail i mewn i'r cyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i unrhyw anifail gael ei lwytho, onid yw'r rhannau o'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar a faeddwyd wedi cael eu glanhau a'u diheintio eto yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.

(6Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid sydd wedi marw wrth iddynt gael eu cludo, ac unrhyw sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod mewn rhai amgylchiadau

4.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo —

(a)pob mamal ac eithrio anifeiliaid carnog;

(b)pob aderyn nas cynhwysir yn erthygl 3; ac

(c)anifeiliaid ac adar a bennir yn erthygl 3 yn yr amgylchiadau a bennir yn Atodlen 1,

ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at “anifail” gael eu dehongli yn unol â hynny.

(2Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn achos —

(a)cludiant nad yw o natur fasnachol;

(b)anifail unigol sy'n mynd gyda pherson sy'n gyfrifol am yr anifail yn ystod y daith; neu

(c)cludo anifeiliaid anwes sy'n mynd gyda'u perchenogion ar daith breifat.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu'n peri neu'n caniatáu i anifeiliaid gael eu cludo, os yw'r erthygl hon yn gymwys, sicrhau —

(a)eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, ei ddiheintio; a

(b)bod anifeiliaid sydd wedi marw wrth iddynt gael eu cludo, unrhyw sarn (llaesodr) fudr a charthion yn cael eu symud ymaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

(4Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.

Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo ceffylau

5.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo ceffylau, neu'n peri neu'n caniatáu i geffylau gael eu cludo, sicrhau —

(a)eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, ei ddiheintio; a

(b)bod unrhyw geffylau sydd wedi marw wrth iddynt gael eu cludo, ac unrhyw sarn (llaesodr) fudr a charthion yn cael eu symud ymaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

(2Ni yw'r erthygl hon yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodwyd yn erthygl 4(2) oni bai bod y cyfrwng cludo wedi'i ddefnyddio ddiwethaf i gludo anifail y mae erthygl 3 yn gymwys iddi.

(3Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu iddo gael ei ddefnyddio, i gludo unrhyw anifail y mae erthygl 3 yn gymwys iddo oni bai bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi'u glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers iddynt gael eu defnyddio ddiwethaf i gludo ceffyl.

(4Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.

Cabiau Gyrwyr

6.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol diheintio y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo.

Gwaredu deunydd ar ôl glanhau

7.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lanhau'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar o dan y Gorchymyn hwn sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, ac unrhyw halogion eraill sydd wedi cael eu symud o'r cyfrwng cludo —

(a)yn cael eu dinistrio;

(b)yn cael eu trin fel bod y perygl o drosglwyddo clefyd yn cael ei ddileu; neu

(c)yn cael eu gwaredu fel nad oes modd i anifeiliaid fynd atynt.

(2Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae gofyn ei waredu o dan Orchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999(3).

Cyfrwng cludo yn ymadael â lladd-dy neu safle gwerthu

8.—(1Os yw cyfrwng cludo —

(a)wedi'i ddefnyddio i gludo unrhyw anifail y mae erthygl 3 yn gymwys iddo i ladd-dy neu safle gwerthu; a

(b)i ymadael â'r lladd-dy neu'r safle gwerthu heb gludo unrhyw anifeiliaid a heb fod wedi'i lanhau a'i ddiheintio,

rhaid i'r gyrrwr, cyn ymadael â'r safle, roi datganiad ysgrifenedig i feddiannydd y lladd-dy, neu drwyddedai'r safle gwerthu, yn nodi ym mha le y bydd y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3(3) yn digwydd.

(2Rhaid i'r meddiannydd neu'r trwyddedai —

(a)darparu i'r gyrrwr y ffurf ar ddatganiad y mae'n rhaid iddo fod ar ffurf a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)anfon y datganiadau, ar ôl eu cwblhau, i'r awdurdod lleol drwy ffacs neu gyfrwng arall y cytunwyd arno gyda'r awdurdod lleol yr un diwrnod ag y maent yn dod i law; ac

(c)cadw'r datganiadau gwreiddiol am dri mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw eu dangos i arolygydd os bydd yn gofyn amdanynt.

Pwerau arolygwyr, etc.

9.—(1Caiff arolygydd sydd wedi ei fodloni naill ai —

(a)bod cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar heb ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r Gorchymyn hwn; neu

(b)bod angen glanhau a diheintio cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar oherwydd y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd,

gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.

(2Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol —

(a)gwahardd defnyddio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;

(b)gwahardd cadw anifeiliaid ar y cyfrwng cludo nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu

(ch)ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gael gwared ar yr holl borthiant y mae anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion a deunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.

(3Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag Atodlen 2 onid yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio.

(4Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3, 4 neu 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw wneud y glanhau a'r diheintio yn unol â'r hyn a bennir yn yr hysbysiad yn lle eu gwneud yn unol ag Atodlen 2 os yw'r arolygydd wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny at ddibenion iechyd anifeiliaid.

(5Onid yw person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir â darpariaethau'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

Gorfodi

10.—(1Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod rhaid i ddyletswydd i orfodi sydd wedi'i gosod ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu

11.  Dirymir Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003(4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

John Marek

Y Dirprwy Lywydd

29 Gorffennaf 2003

Ben Bradshaw

Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

29 Gorffennaf 2003

Erthyglau 3(2) a 4(1)

ATODLEN 1YR AMGYLCHIADAU PAN FYDD ERTHYGL 4 YN GYMWYS I'R ANIFEILIAID A BENNIR YN ERTHYGL 3

Teithio o fewn menter ffermio unigol

1.  Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys os yw'r daith wedi ei gwneud o fewn menter ffermio unigol sydd o dan un berchnogaeth.

Teithio rhwng yr un dau bwynt

2.—(1Os yw cyfrwng cludo yn cael ei ddefnyddio'n unig o fewn un diwrnod i gludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt, erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys, ac eithrio cyn taith gyntaf y diwrnod ac ar ôl y daith olaf.

(2Yn y paragraff hwn mae cludo anifeiliaid yn digwydd o fewn un diwrnod hyd yn oed —

(a)os yw'r daith olaf yn dechrau ond nad yw'n gorffen cyn canol nos ar y diwrnod dan sylw; a

(b)yn achos anifail carnog sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad gyda'r hwyr, neu un sy'n parhau gyda'r hwyr, ar y diwrnod dan sylw, os yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag yw'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn canol nos ai peidio.

(3Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dau safle gwerthu.

Teithio yn ôl ac ymlaen i sioeau da byw o fewn un diwrnod

3.  Os defnyddir cyfrwng cludo ar gyfer cludo anifeiliaid o'u safle tarddiad i sioe da byw ac yn ôl ac nad yw paragraff 2 yn gymwys, yna erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â'r cyfrwng cludo pan yw ar safle'r sioe ar yr amod —

(a)bod y cyfrwng cludo yn mynd yn uniongyrchol o'r safle tarddiad i'r sioe;

(b)nad yw'r cyfrwng cludo yn ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;

(c)mai'r anifeiliaid a gludwyd i'r sioe yw'r unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo pan yw yn y sioe;

(ch)nad yw'r cyfrwng cludo ar y daith yn ôl ond yn cludo'r anifeiliaid a gludasai i'r sioe; a

(d)bod y cyfrwng cludo yn dychwelyd o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.

Dadlwytho dros dro

4.  Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho ohono, a hynny dim ond i roi bwyd neu ddŵ r iddynt, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac wedyn eu hail lwytho ynddo.

Erthyglau 3(3), (4) a (5), 4(4), 7(3) a (4)

ATODLEN 2GLANHAU A DIHEINTIO CYFRWNG CLUDO

Lefel y glanhau a'r diheintio

1.  Rhaid gwneud yr holl lanhau a diheintio er mwyn lleihau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, y perygl o drosglwyddo'r clefyd.

Y rhannau o'r cyfrwng cludo y mae angen eu glanhau

2.—(1Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd —

(a)rhaid glanhau'r canlynol p'un a ydynt wedi eu baeddu ai peidio: holl wynebau mewnol y rhannau hynny o'r cyfrwng cludo y cludwyd yr anifeiliaid ynddynt, a phob rhan o'r cyfrwng cludo y mae'n bosibl bod yr anifeiliaid wedi cael mynd ati yn ystod y daith; a

(b)rhaid glanhau'r canlynol os ydynt wedi eu baeddu —

(i)unrhyw ffitiadau datodadwy nas defnyddiwyd yn ystod y daith;

(ii)unrhyw ran arall o'r cyfrwng cludo; a

(iii)unrhyw gyfarpar.

(2Yn achos anifeiliaid a gludwyd mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi ei faeddu ai peidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.

(3Rhaid i olwynion, gardiau olwynion a bwâu olwynion cyfrwng cludo gael eu glanhau p'un a ydynt wedi eu baeddu ai peidio a p'un a glydwyd yr anifeiliaid mewn cynhwysydd ai peidio.

(4At ddibenion erthygl 3, rhaid diheintio hefyd bob rhan o gyfrwng cludo y mae'n ofynnol ei lanhau.

Y dull glanhau

3.  Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw sarn (llaesodr), unrhyw garthion ac unrhyw ddeunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, a glanhau wedyn â dwr, stêm neu, pan fo'n briodol, gemegau neu gyfansoddion cemegol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes cael gwared ar y baw.

Y dull diheintio

4.  Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei ddiheintio o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(5) yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer “gorchmynion cyffredinol”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu a disodli Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1470 (Cy.172)). Mae'n newid y darpariaethau yn y Gorchymyn hwnnw fel a ganlyn —

  • mae'n darparu gofynion penodol ynglŷn â glanhau a diheintio ar gyfer cludo ceffylau (erthygl 5);

  • mae'n gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer y sefyllfa lle mae cyfrwng cludo yn ymadael â lladd-dy neu safle gwerthu (erthygl 8); ac

  • mae'n darparu ar gyfer glanhau a diheintio olwynion, gardiau olwynion a bwâu olwynion cyfrwng cludo (paragraff 2(3) o Atodlen 2).

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer glanhau a diheintio (yn unol ag Atodlen 2) cyfrwng cludo cyn bod anifeiliaid penodedig yn cael eu cludo ac ar ôl hynny (erthyglau 3, 4 a 5, ac Atodlen 1).

Mae'n darparu nad oes rhaid diheintio cabiau gyrwyr (erthygl 6).

Mae erthygl 7 yn pennu'r ffordd y mae'n rhaid cael gwared ar ddeunydd sydd wedi cael ei symud o gyfrwng cludo ar ôl glanhau'r cyfrwng hwnnw.

Mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr roi datganiadau ysgrifenedig sy'n pennu ym mha le y bydd y glanhau a'r diheintio yn digwydd pan fydd cyfryngau cludo (nad ydynt yn cludo anifeiliaid) yn ymadael â lladd-dai neu safleoedd gwerthu.

O dan erthygl 9, awdurdodir arolygydd, yn yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.

Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 10).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i “the Ministers” (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd “the Ministers” a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).

(3)

O.S. 1999/646 fel y'i diwygiwyd ynghylch Cymru gan O.S. 2001/1735 (Cy.122).

(5)

O.S. 1978/32, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/919 ac, ynghylch Cymru, gan O.S. 2001/641 (Cy.31).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources