Adran 2 – Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr
4.Mae'r adran hon yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau penodol a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall. Caniateir gosod y rhwymedigaethau sy'n codi o'r cyfryw ddarpariaeth ar y cyrff hynny neu ar unrhyw berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan y cyrff hynny (e.e. gweithredydd bysiau sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract ag awdurdod lleol).
5.Caniateir disgrifio'r cerbyd drwy gyfeirio at ei oed, p'un a yw'n gerbyd unllawr neu'n gerbyd deulawr, neu ddisgrifiadau eraill o'r cerbyd drwy gyfeirio at ei wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill.
6.Mae is-adran 14B(1)(c) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu ar gyfer tramgwyddau troseddol a chosbau am dorri'r gofynion a osodir o dan yr adran hon. Mae pŵer Gweinidogion Cymru i greu tramgwyddau troseddol o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i'r terfynau a osodir gan baragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni fyddent yn cael defnyddio'r pŵer hwn i greu unrhyw dramgwydd troseddol y gellid ei gosbi -
ar gollfarn ddiannod, â chyfnod o garchar sy'n hwy na'r cyfnod a ragnodir neu â dirwy sy'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd), neu
ar gollfarn ar dditiad, â chyfnod o garchar sy'n hwy na dwy flynedd.
7.Y cyfnod a ragnodir yw 51 o wythnosau yn achos tramgwydd diannod a 12 mis pan fo'r tramgwydd yn un neillffordd. Ond cyn i adrannau 154(1) a 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym nid oes unrhyw gyfnod o garchar hwy na chwe mis i'w osod ar gollfarnu person o dramgwydd diannod a grëir o dan y rheoliadau neu ar gollfarn ddiannod o dramgwydd o’r fath sy’n neillffordd.(1).
Paragraff 52, Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.