Adran 3 - Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr
8.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i drefniadau gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr a nodi darpariaethau am ddefnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain. Caiff y rheoliadau bennu'r mathau o drefniadau sydd i'w gwneud. Gallent gynnwys dull y recordio neu faterion cysylltiedig fel rhoi gwybodaeth i rieni a phlant bod y cyfryw recordio yn digwydd.
9.Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi swyddogaethau i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a phersonau sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
10.Diben is-adran (3) o adran 14C yw ei gwneud yn glir nad yw'r adran hon yn awdurdodi recordio cudd ac na all wneud recordio cudd yn ofynnol.
11.Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer tramgwyddau a chosbau troseddol ac mae'r cyfryw ddarpariaeth yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a grybwyllwyd ym mharagraffau 6 a 7 uchod.