Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Diogelwch Ar Gludiant I Ddysgwyr (Cymru) 2011

Rhagarweiniad

1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Mawrth 2011 a'i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Mai 2011. Cawsant eu paratoi gan Adran yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Mesur. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Mesur ond nid ydynt yn rhan ohono.

Sylwadau Ar Adrannau

Adran 1 – Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr

2.Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar gyrff perthnasol (awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir) a phersonau sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol (e.e. gweithredydd bysiau sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract gydag awdurdod lleol), sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludo dysgwyr yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.

3.Mae isadran 14A(3) yn darparu bod person sy’n methu â chydymffurfio â'r dyletswyddau hynny'n cyflawni tramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol. Bydd yn amddiffyniad i ddangos bod amgylchiadau eithriadol wedi atal cydymffurfio â'r dyletswyddau o fewn isadran 14A(1) neu (2).

Adran 2 – Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr

4.Mae'r adran hon yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau penodol a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall. Caniateir gosod y rhwymedigaethau sy'n codi o'r cyfryw ddarpariaeth ar y cyrff hynny neu ar unrhyw berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan y cyrff hynny (e.e. gweithredydd bysiau sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract ag awdurdod lleol).

5.Caniateir disgrifio'r cerbyd drwy gyfeirio at ei oed, p'un a yw'n gerbyd unllawr neu'n gerbyd deulawr, neu ddisgrifiadau eraill o'r cerbyd drwy gyfeirio at ei wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill.

6.Mae is-adran 14B(1)(c) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu ar gyfer tramgwyddau troseddol a chosbau am dorri'r gofynion a osodir o dan yr adran hon. Mae pŵer Gweinidogion Cymru i greu tramgwyddau troseddol o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i'r terfynau a osodir gan baragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni fyddent yn cael defnyddio'r pŵer hwn i greu unrhyw dramgwydd troseddol y gellid ei gosbi -

  • ar gollfarn ddiannod, â chyfnod o garchar sy'n hwy na'r cyfnod a ragnodir neu â dirwy sy'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd), neu

  • ar gollfarn ar dditiad, â chyfnod o garchar sy'n hwy na dwy flynedd.

7.Y cyfnod a ragnodir yw 51 o wythnosau yn achos tramgwydd diannod a 12 mis pan fo'r tramgwydd yn un neillffordd. Ond cyn i adrannau 154(1) a 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym nid oes unrhyw gyfnod o garchar hwy na chwe mis i'w osod ar gollfarnu person o dramgwydd diannod a grëir o dan y rheoliadau neu ar gollfarn ddiannod o dramgwydd o’r fath sy’n neillffordd.(1).

Adran 3 - Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr

8.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i drefniadau gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr a nodi darpariaethau am ddefnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain. Caiff y rheoliadau bennu'r mathau o drefniadau sydd i'w gwneud. Gallent gynnwys dull y recordio neu faterion cysylltiedig fel rhoi gwybodaeth i rieni a phlant bod y cyfryw recordio yn digwydd.

9.Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi swyddogaethau  i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a phersonau sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.

10.Diben is-adran (3) o adran 14C yw ei gwneud yn glir nad yw'r adran hon yn awdurdodi recordio cudd ac na all wneud recordio cudd yn ofynnol.

11.Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer tramgwyddau a chosbau troseddol ac mae'r cyfryw ddarpariaeth yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a grybwyllwyd ym mharagraffau 6 a 7 uchod.

Adran 4 - Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr

12.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch ar y cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu. Caiff hyn gynnwys gosod natur yr asesiad, cyhoeddi adroddiadau, dull y cyhoeddi neu amlder yr asesiadau.

Adran 5 - Hyfforddi gyrwyr

13.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sy'n darparu cludiant i ddysgwyr i sicrhau bod gyrwyr y cerbydau hynny wedi cwblhau hyfforddiant priodol am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant. Caiff y rheoliadau ragnodi'r mathau o hyfforddiant y mae angen eu dilyn a phennu safonau y mae'n rhaid eu cyrraedd.

14.Mae is-adran (2) o adran 14E yn caniatáu i'r hyfforddiant a safonau gael eu rhagnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 6 - Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr

15.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n ymwneud â darparu goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr gan gorff perthnasol a darparu hyfforddiant perthnasol ar gyfer y goruchwylwyr hyn.

Adran 7 - Cosbau sifil

16.Mae'r adran hon yn cyflwyno'r Atodlen sy'n mewnosod Atodlen A1 ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

Adran 8 - Awdurdod gorfodi

17.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i benodi person neu gorff yn awdurdod gorfodi. Caiff rheoliadau roi pwerau neu ddyletswyddau i awdurdod gorfodi at ddibenion gorfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adran 14B, 14C ac Atodlen A1. Byddai hyn yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) y pŵer i awdurdodi personau i benodi “arolygwyr” i arfer y  pwerau mynediad ac arolygu a nodir yn adrannau 9 a 10 (gan fewnosod adran 14I a 14J yn y drefn honno).

Adran 9- Pwerau mynediad

18.Mae'r adran hon yn gosod pŵer mynediad sy'n arferadwy gan berson a awdurdodir i'w arfer gan awdurdod gorfodi o dan reoliadau a wneir o dan adran 14H(3)(a).    Cyfeirir at berson a awdurdodir yn y ffordd hon yn y Mesur fel “arolygydd”. Caiff arolygydd, ar adeg resymol, fynd i gerbyd neu fangre  –

  • sydd dan berchenogaeth neu reolaeth awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir; neu

  • a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr.

Hefyd, caiff arolygydd gadw cerbyd yn gaeth. Nid yw pŵer mynediad yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.

Adran 10 - Pŵer arolygu

19.Mae'r adran hon yn darparu y caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu'n mynd i gerbyd neu fangre arolygu'r cerbyd neu'r fangre; arolygu, cymryd copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr o'r cerbyd neu'r fangre a mynd â hwy oddi yno;  ac arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o'r cerbyd neu'r fangre.

20.Bydd person sy'n rhwystro arolygydd heb esgus rhesymol yn euog o dramgwydd  ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500 ar hyn o bryd).

Adran 11 - Y pŵer i fynnu gwybodaeth

21.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol neu berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr ddarparu gwybodaeth, dogfennau, cofnodion ac eitemau eraill sy'n ymwneud â chludiant i ddysgwyr ac a ystyrir gan yr awdurdod gorfodi i fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion ei swyddogaethau.

22.Bydd unrhyw berson sy'n methu â darparu gwybodaeth, dogfennau, cofnodion nac eitemau eraill heb esgus rhesymol yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500 ar hyn o bryd).

Adran 12 - Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid

23.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau a'u heffaith fydd y caniateir i swyddogion corff corfforaethol neu bartner mewn partneriaeth fod yn bersonol atebol am dramgwyddau a gyflawnir o dan adrannau 14A, 14B neu 14C gan y corff corfforaethol neu'r bartneriaeth, yn ogystal â'r corff corfforaethol neu'r bartneriaeth ei hun.

24.Mae atebolrwydd yn codi pan brofir bod y tramgwydd wedi ei wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r corff corfforaethol neu bartner mewn partneriaeth.

Adran 13 - Rheoliadau: Ymgynghori

25.Mae adran 13 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod lleol ac unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol yn eu barn hwy ymgynghori â hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14A i 14F, adran 14H neu 14L o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 neu Atodlen A1 iddo (fel y'i diwygir gan y Mesur).

Adran 14  Dehongli

26.Un o elfennau allweddol yr adran hon yw'r ddarpariaeth yn  14N(6) sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio, drwy orchymyn, y diffiniad o “cludiant i ddysgwyr” yn is-adran (3) drwy ddileu'r geiriau hynny sydd ar hyn o bryd yn ei gyfyngu i gludiant rhwng cartref ac ysgol.

Adran 15 -  Darpariaethau cyffredinol am orchmynion a rheoliadau

27.Mae'r adran hon yn diwygio adran 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n gwneud darpariaeth i orchmynion a rheoliadau gael eu gwneud drwy offeryn statudol, pwerau ategol i wneud darpariaeth drwy orchmynion neu reoliadau a gweithdrefnau craffu gan y Cynulliad.

28.Mae adran 15(2) yn diwygio adran 27(2) o Fesur 2008 i estyn cwmpas y pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau o dan Fesur 2008 i gynnwys:

  • gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer dosbarthau gwahanol ar achos neu at ddibenion gwahanol,

  • gwneud darpariaeth sy'n ddarostyngedig i esemptiad neu eithriadau penodedig, ac

  • gwneud darpariaeth mewn perthynas â dosbarth penodol o achos.

29.Diben adran 15(3) yw darparu bod y cyfan o'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y Mesur yn cynnwys y pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol. A diben is-adran (4) yw darparu bod y pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth drosiannol, darpariaeth arbed neu ddarpariaeth ganlyniadol o dan y pwerau'n cynnwys pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau mewn Mesurau Cynulliad, Deddfau Senedd y DU ac is-ddeddfwriaeth a basiwyd neu a wnaed cyn pasio'r Mesur. Is-adran (5) yw'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol i bob rheoliad a wneir o dan y Mesur ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 14N(6).

Adran 16 - Cychwyn

30.Daw adran 1 i rym ar 1 Hydref 2004.

31.Mae gweddill y darpariaethau yn y Mesur yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor. Ond ni wneir unrhyw newid gweithredol i ddarpariaeth cludiant i ddysgwyr nes gwneir rheoliadau o dan y Mesur a nes eu bod yn dod i rym.

Adran 17 - Enw byr

32.Mae'r adran hon yn cadarnhau mai enw'r Mesur yw Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.

Atodlen – Cosbau sifil

33.Cyflwynir Atodlen A1 gan adran 7 o'r Mesur.

34.Mae darpariaethau'r Atodlen yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer cosbau sifil am dorri rheoliadau o dan adrannau 14A neu 14B (y cyfeirir atynt yn Atodlen A1 fel “rheoliadau diogelwch”). Mae torri rheoliadau diogelwch at ddibenion yr Atodlen yn cynnwys methiant i gydymffurfio â gofyniad yn y rheoliadau a rhwystro neu fethu â chynorthwyo awdurdod gorfodi (gweler adran 7 ar gyfer darpariaeth ynghylch awdurdodau gorfodi). Rhaid i'r holl bwerau i osod cosbau sifil gael eu rhoi i'r awdurdod gorfodi.

35.Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer pedwar math gwahanol o gosb sifil:

  • cosbau ariannol penodedig,

  • gofynion yn ôl disgresiwn,

  • hysbysiadau stop, a

  • ymgymeriad gorfodi.

Cosbau ariannol penodedig (paragraffau 2 a 3 o Atodlen A1)

36.Gofyniad yw “cosb ariannol benodedig” i dalu cosb am swm a bennir yn y rheoliadau i awdurdod gorfodi. Uchafswm y gosb y caniateir ei gosod yw £5,000.  Dim ond pan fo awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod toriad i reoliadau wedi digwydd y caiff rheoliadau roi pŵer i osod cosb ariannol benodedig.

37.Mae paragraff 3 o Atodlen A1 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer gosod cosbau ariannol penodedig gan gynnwys dyroddi hysbysiad o fwriad, cyfle i berson ryddhau ei hun o atebolrwydd, y broses o gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, hysbysiad terfynol, y broses apelio i'r person y gosodwyd y gosb ariannol benodedig arno, a seiliau apêl.

38.Dylai'r rheoliadau hefyd bennu'r amgylchiadau pan na chaiff awdurdod gorfodi benderfynu gosod cosb ariannol benodedig er enghraifft am resymau gweithredol eithriadol megis tywydd garw, cerbyd ddim yn gweithio, neu argyfwng pan na fyddai disgyblion fel arall yn gallu mynd adref.

Gofynion yn ôl disgresiwn (paragraffau 4, 5 a 6 o Atodlen A1)

39.Caiff rheoliadau ddarparu bod awdurdod gorfodi yn gosod gofyniad neu ofynion yn ôl disgresiwn ar berson sy'n torri rheoliadau diogelwch. Unwaith eto rhaid bod yr awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod toriad i reoliadau wedi digwydd.

40.Caiff gofyniad yn ôl disgresiwn gynnwys gofyniad i dalu cosb o swm a ddyfernir gan awdurdod gorfodi; neu ofyniad i gymryd y camau hynny a bennir gan yr awdurdod gorfodi i sicrhau nad yw'r toriad yn y rheoliadau yn parhau neu'n digwydd eto.

41.Ni ellir gosod gofyniad yn ôl disgresiwn ar yr un person am yr un weithred neu anwaith ar fwy nag un achlysur.

42.Mae paragraff 5 o Atodlen A1 yn gosod y weithdrefn ar gyfer gofynion yn ôl disgresiwn gan gynnwys hysbysiad o fwriad, y broses o gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, talu cosbau yn achos cosb ariannol amrywiadwy a'r broses apelio, seiliau apêl a chanlyniadau peidio â chydymffurfio.

43.Caniateir gwneud darpariaeth hefyd mewn rheoliadau i ganiatáu i awdurdod gorfodi osod cosb ariannol (‘cosb am beidio â chydymffurfio’) ar berson sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn i gymryd camau i sicrhau nad yw toriad yn y rheoliadau yn parhau neu'n digwydd eto (paragraff 6 o  Atodlen  A1).

Hysbysiadau stop

44.Caiff y rheoliadau roi'r pŵer i awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop. Mae hysbysiad stop yn gwahardd person rhag parhau â gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad. Cyn dyroddi hysbysiad stop rhaid bod arolygydd wedi ei fodloni bod y gweithgaredd yn golygu bod risg arwyddocaol o achosi niwed difrifol i iechyd dynol, ac yn golygu toriad yn y rheoliadau sy'n ymwneud â'r disgrifiad o gerbydau a ddefnyddir ar gyfer cludiant i ddysgwyr

45.Rhaid i'r rheoliadau wneud darpariaeth am iawndal ar gyfer colled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno'r hysbysiad. Ond dim ond mewn achosion a bennir yn y rheoliadau neu mewn perthynas â disgrifiadau o golled a bennir yn y rheoliadau y caniateir iddynt ddarparu iawndal. Rhaid i'r rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau i beidio â dyfarnu iawndal neu mewn perthynas â'r swm.

46.Os na fydd person y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn cydymffurfio â hysbysiad stop mae'r person yn euog o dramgwydd ac yn agored-

(a)

ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd), neu garchar am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu'r ddau, neu

(b)

ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i ddirwy neu i'r ddau.

47.Pan fydd adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn cael ei chychwyn bydd uchafswm cyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod yn cael ei ymestyn i ddeuddeng mis (gweler paragraff 10 o  Atodlen A1).

Ymgymeriadau gorfodi (paragraff 11 o Atodlen A1)

48.Caiff y rheoliadau roi i awdurdod gorfodi'r pŵer i dderbyn ymgymeriad gorfodi gan berson pan fo gan yr awdurdod gorfodi sail resymol i amau fod y person wedi torri'r rheoliadau diogelwch. Ymgymeriad gorfodi yw ymgymeriad i gymryd y camau hynny a bennir yn yr ymgymeriad o fewn cyfnod o amser penodedig. Effaith yr ymgymeriad yw cyhyd ag y bo cydymffurfio â'r ymgymeriad ni ellir cymryd mathau eraill o gamau gorfodi mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r ymgymeriad yn ymwneud ag ef neu â hi. Y camau na ellir eu cymryd yn ystod gweithrediad yr ymgymeriad gorfodi yw: achos o dramgwydd troseddol, cosb ariannol benodedig neu ofyniad yn ôl disgresiwn. Mae paragraff 11 o Atodlen A1 hefyd yn nodi'r pŵer sydd gan reoliadau i wneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn ar gyfer ymrwymiadau gorfodi, eu telerau, cyhoeddi ac amrywio a darpariaeth ynghylch cydymffurfio, monitro , ac apelau

Cyfuno cosbau (paragraff 12 o Atodlen A1)

49.Mae paragraff 12 yn gwneud darpariaeth i sicrhau na ellir defnyddio cyfuniad o gosb ariannol benodedig, gofyniad yn ôl disgresiwn, a hysbysiad stop mewn perthynas â'r un toriad yn y rheoliadau diogelwch.

Materion atodol

50.Yn achos cosbau ariannol caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer disgownt am dalu'n gynnar, talu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu'n hwyr, ac adennill arian am gosbau am logau a dalwyd yn hwyr fel dyledion sifil (paragraff 3 o Atodlen A1).

51.Caiff darpariaeth yn y rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer talu costau y mae'r awdurdod gorfodi yn mynd iddynt; yn benodol, costau ymchwilio, costau gweinyddu a'r gost o gael cyngor arbenigol (paragraff 14 o Atodlen A1).

52.Rhaid darparu bod apelau yn y rheoliadau o dan Atodlen A1 yn darparu bod apelau yn cael eu gwneud i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf neu i dribiwnlys arall a grëir o dan ddeddfiad (paragraff 15 o  Atodlen A1).

53.Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i alluogi'r awdurdod gorfodi i'w gwneud yn ofynnol bod y person y gosodwyd y gosb arno i roi cyhoeddusrwydd i'r ffaith (paragraff 16 o Atodlen A1).

54.Caiff y rheoliadau ddarparu bod swyddogion corff corfforaethol neu bartneriaeth yn atebol yn bersonol i gosbau sifil yn ogystal â'r corff corfforaethol neu'r bartneriaeth ei hun (paragraff 17 o Atodlen A1).

55.Pan fo pŵer yn cael ei roi i awdurdod gorfodi, rhaid i'r awdurdod gorfodi hwnnw gyhoeddi canllawiau am ddefnydd yr awdurdod gorfodi o gosbau sifil gan gynnwys o dan ba amgylchiadau y mae'r gosb yn debygol o gael ei gosod, yr amgylchiadau pan na chaniateir ei gosod, swm y gosb, y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad,  a'r hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio (paragraff 18 o Atodlen A1).

56.Rhaid i reoliadau sy’n rhoi pwerau i awdurdod gorfodi osod cosbau sifil sicrhau bod awdurdod gorfodi o bryd i’w gilydd yn cyhoeddi adroddiadau sy’n pennu’r achosion lle y cafodd cosbau sifil eu gosod (paragraff 18 o Atodlen A1).

57.Rhaid i awdurdod gorfodi weithredu yn unol â'r egwyddor y dylai pob gweithgaredd rheoleiddiol gael ei gyflawni mewn modd tryloyw, atebol, cymesur a chyson a dim ond at achosion pryd y mae angen camau gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol (paragraff 20 o Atodlen A1).

58.Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaethau a wnaed ganddynt sy'n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi osod cosbau sifil. Rhaid i’r adolygiad ddigwydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod pryd y daw’r ddarpariaeth i rym (paragraff 21 o Atodlen A1).

59.Caniateir i Weinidogion Cymru gael eu penodi'n awdurdod gorfodi mewn rheoliadau, ac os digwydd hynny telir unrhyw dderbyniadau o gosbau sifil i Gronfa Gyfunol Cymru drwy effaith adran 120 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae paragraff 22 o Atodlen A1 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu derbyniadau o gosbau sifil i Gronfa Gyfunol Cymru os person neu gorff heblaw Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi.

Cofnod O’R Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod o’r Trafodion a gwybodaeth bellach ar daith y Mesur hwn ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/bus_legislation_measure_learnertransport.htm

CyfnodDyddiad
Cyflwyno20 Medi 2010
Cyfnod 1 - Dadl11 Ionawr 2011
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu yn ystyried y gwelliannau3 Chwefror 2011
Cyfnod 3  Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau22 Mawrth 2011
Cyfnod 4 Cymeradwyaeth gan y Cynulliad22 Mawrth 2011
Cymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyfrin Gyngor10 Mai 2011
1

Paragraff 52, Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources