Adran 58 Swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd (TICDau)
119.Mae adran 58 yn pennu'r hyn y mae’n rhaid i TICD ei wneud. Swyddogaeth y TICD yw ymdrin ag achosion teulu pan fo anghenion oedolion mewn perthynas ag alcohol neu gyffuriau, trais domestig, iechyd meddwl neu anabledd dysgu yn gysylltiedig â chanlyniadau andwyol i blant yr oedolion hynny. Bydd y timau yn dod â phroffesiynolion ynghyd o’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol o dan sylw i fynd i’r afael â materion oedolion a phlant o fewn un corff.
120.O dan is-adran (2) caiff Gweinidogion Cymru ragnodi mewn rheoliadau swyddogaethau awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol sy’n berthnasol i’r mathau o achosion y bydd y timau yn ymdrin â hwy. Mae’r swyddogaethau hyn wedi eu diffinio yn y Mesur fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” ac mae’r awdurdod lleol i nodi’r swyddogaethau cymorth i deuluoedd sydd yw cyflawni gan TICD. Bydd angen cydsyniad y bwrdd iechyd lleol ar gyfer priodoli’r swyddogaethau hyn. Nid person cyfreithiol ar wahân yw’r TICD. Mae’n gyfrwng a sefydlir gan yr awdurdod lleol gyda chyfranogaeth y bwrdd iechyd lleol y bydd pob un o’r cyrff hynny’n cyflawni swyddogaethau penodol drwyddo mewn modd cydweithredol.
121.Mae is-adran (5) yn egluro y daw atgyfeiriadau at TICD o’r awdurdod lleol.
122.Yn is-adrannau (6) a (7) pennir y mathau o achosion y caniateir eu hatgyfeirio i TICD. Y rhain yw teuluoedd lle mae “rhiant” (fel y'i diffinnir) yn wynebu un o nifer o anawsterau penodedig, a phlentyn y rhiant hwnnw naill ai'n “blentyn mewn angen” fel y'i diffinnir neu'n “blentyn sy'n derbyn gofal” (fel y'i diffinnir). Mae'r darpariaethau yn cynnwys rhiant plentyn nad yw eto wedi ei eni, ac yn caniatáu atgyfeirio at unigolion eraill sy’n gysylltiedig â'r plentyn.
123.Mae is-adran (8) yn gosod dyletswydd benodol ar dîm i werthuso a chofnodi effeithiolrwydd ei waith. Mae is-adran (10) yn pennu bod yr atebolrwydd am gyflawni swyddogaethau awdurdod lleol a chyflawni swyddogaethau byrddau iechyd lleol yn aros gyda'r cyrff hynny yn y drefn honno. Mae is-adran (11) yn gwneud yn eglur nad yw unrhyw swyddogaethau a bennir i'r tîm yn cael eu trosglwyddo iddo yn gyfan gwbl, ond yn hytrach yn parhau i gael eu harfer gan yr awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd lleol mewn perthynas â'r rheini na chânt, neu na ellir, eu hatgyfeirio i TICD.