Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Rhan 3: Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd

Adran 57 Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd (TICD)

118.Mae adran 57 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd (TICD) yn eu hardal. Mae'n gosod dyletswyddau hefyd ar y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gweithredu dros yr ardal i weithredu fel partner i gynorthwyo'r awdurdod lleol mewn ffordd weithgar i sefydlu TICD a chynorthwyo awdurdod lleol mewn ffordd weithgar i gyflawni ei ddyletswyddau o ran TICD. Mae'n galluogi dau neu ragor o awdurdodau lleol i gydweithredu i sefydlu un neu ragor o TICDau ar gyfer eu dwy ardal (neu bob un o'u hardaloedd).

Adran 58 Swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd (TICDau)

119.Mae adran 58 yn pennu'r hyn y mae’n rhaid i TICD ei wneud. Swyddogaeth y TICD yw ymdrin ag achosion teulu pan fo anghenion oedolion mewn perthynas ag alcohol neu gyffuriau, trais domestig, iechyd meddwl neu anabledd dysgu yn gysylltiedig â chanlyniadau andwyol i blant yr oedolion hynny. Bydd y timau yn dod â phroffesiynolion ynghyd o’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol o dan sylw i fynd i’r afael â materion oedolion a phlant o fewn un corff.

120.O dan is-adran (2) caiff Gweinidogion Cymru ragnodi mewn rheoliadau swyddogaethau awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol sy’n berthnasol i’r mathau o achosion y bydd y timau yn ymdrin â hwy.  Mae’r swyddogaethau hyn wedi eu diffinio yn y Mesur fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” ac mae’r awdurdod lleol i nodi’r swyddogaethau cymorth i deuluoedd sydd yw cyflawni gan TICD.  Bydd angen cydsyniad y bwrdd iechyd lleol ar gyfer priodoli’r swyddogaethau hyn. Nid person cyfreithiol ar wahân yw’r TICD.  Mae’n gyfrwng a sefydlir gan yr awdurdod lleol gyda chyfranogaeth y bwrdd iechyd lleol y bydd pob un o’r cyrff hynny’n cyflawni swyddogaethau penodol drwyddo mewn modd cydweithredol.

121.Mae is-adran (5) yn egluro y daw atgyfeiriadau at TICD o’r awdurdod lleol.

122.Yn is-adrannau (6) a (7) pennir y mathau o achosion y caniateir eu hatgyfeirio i TICD. Y rhain yw teuluoedd lle mae “rhiant” (fel y'i diffinnir) yn wynebu un o nifer o anawsterau penodedig, a phlentyn y rhiant hwnnw naill ai'n “blentyn mewn angen” fel y'i diffinnir neu'n “blentyn sy'n derbyn gofal” (fel y'i diffinnir). Mae'r darpariaethau yn cynnwys rhiant plentyn nad yw eto wedi ei eni, ac yn caniatáu atgyfeirio at unigolion eraill sy’n gysylltiedig â'r plentyn.

123.Mae is-adran (8) yn gosod dyletswydd benodol ar dîm i werthuso a chofnodi effeithiolrwydd ei waith. Mae is-adran (10) yn pennu bod yr atebolrwydd am gyflawni swyddogaethau awdurdod lleol a chyflawni swyddogaethau byrddau iechyd lleol yn aros gyda'r cyrff hynny yn y drefn honno. Mae is-adran (11) yn gwneud yn eglur nad yw unrhyw swyddogaethau a bennir i'r tîm yn cael eu trosglwyddo iddo yn gyfan gwbl, ond yn hytrach yn parhau i gael eu harfer gan yr awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd lleol mewn perthynas â'r rheini na chânt, neu na ellir, eu hatgyfeirio i TICD.

Adran 59 Adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd

124.Mae adran 59 yn galluogi awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol i wneud trefniadau i dalu am y gwariant a achosir wrth sefydlu a rhedeg TICD naill ai drwy wneud taliadau uniongyrchol neu dalu i gronfa a sefydlir ac a gynhelir gan yr awdurdod lleol. Mae is-adran (2) yn caniatáu i reoliadau ddarparu ar gyfer gwahanol agweddau ymarferol ar gyllido TICDau. Mae is-adran (3) yn ymwneud ag adnoddau ac eithrio arian, er enghraifft cyfuno staff, a mangreoedd.

Adran 60 Cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd

125.Mae adran 60 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau bod TICDau yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol perthnasol a ragnodir mewn rheoliadau. Bydd modd felly penderfynu drwy reoliadau gyfansoddiad proffesiynol y timau.  Mae is-adran (2) yn rhoi pŵer i awdurdod lleol gynnwys personau eraill (yn ychwanegol at y rhai a ragnodir) yn y TICD, gyda chydsyniad y Bwrdd iechyd Lleol.

Adran 61 Sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd

126.Mae adran 61 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i sefydlu Bwrdd Integredig Cymorth i Deuluoedd ar gyfer ei ardal. Mae adran 58(4) yn ei gwneud yn ofynnol i TICD gyflawni ei swyddogaethau o dan gyfarwyddyd ei fwrdd. Rhaid i'r bwrdd gynnwys:

  • cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol;

  • cyfarwyddwr arweiniol statudol y gwasanaethau plant a phobl ifanc (o dan a.27 o Ddeddf Plant 2004 (p 21)) os nad ef yw'r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol;

  • y swyddog arweiniol dros wasanaethau plant a phobl ifanc o'r Bwrdd Iechyd Lleol.

127.Mae'r darpariaethau yn galluogi awdurdodau lleol i gyfethol aelodau eraill i'r Bwrdd gyda chydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ac i dalu taliadau a lwfansau i aelodau cyfetholedig a benodir o dan is-adran (5).

Adran 62 Swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd

128.Mae adran 62 yn rhestru swyddogaethau bwrdd ICD ar ffurf amcanion. Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy eu pwerau i wneud rheoliadau, i bennu swyddogaethau a fyddai’n dweud sut y mae’n rhaid i fwrdd ICD fodloni’r amcanion. Yn y rhestr o amcanion y byrddau, mae is-adran 1(b) yn cynnwys yr amcan bod yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn hybu arferion da, p’un ai drwy ddarparu hyfforddiant neu drwy ddull arall, o fewn eu hardaloedd, sy’n estyn ymhellach na’r TICD ei hun.

Adran 63 Rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd

129.Mae adran 63 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch gwahanol agweddau ar y TICDau ac ar weithrediad y bwrdd ICD.

Adran 64 Adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd

130.Mae adran 64 yn gosod dyletswydd ar TICDau i ddarparu adroddiad blynyddol ar eu heffeithiolrwydd. Rhaid rhoi'r adroddiad ar gael yn lleol i'r awdurdod lleol, i'r bwrdd iechyd lleol a hefyd i Weinidogion Cymru.

Adran 65 Canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd

131.Mae adran 65 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, bwrdd iechyd lleol, y TICD a'r Bwrdd ICD roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau / swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Mesur.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources