Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 867 (Cy. 203)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021

Gwnaed

19 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 20 Gorffennaf 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 11.00 a.m. ar 20 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 20 Gorffennaf 2021.

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2)wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2A(2), ar ôl “Atodlen 3A”, mewnosoder “neu Ffrainc Fetropolitanaidd”.

4.  Yn Atodlen 1, mae paragraff 3 fel y’i mewnosodir gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021(3)wedi ei ailrifo yn baragraff 3A.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae rheoliad 2A o’r Rheoliadau hynny yn cynnwys esemptiadau i ofynion ynysu a gofynion profi penodol mewn perthynas â chategorïau penodol o deithwyr sydd wedi eu brechu yn erbyn y coronafeirws neu sydd o dan 18 oed.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn darparu nad yw’r esemptiadau yn rheoliad 2A yn rhychwantu personau sy’n teithio o Ffrainc Fetropolitanaidd.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall drafftio yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill