2021 Rhif 867 (Cy. 203)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym

1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 20 Gorffennaf 2021.

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.

Yn rheoliad 2A(2), ar ôl “Atodlen 3A”, mewnosoder “neu Ffrainc Fetropolitanaidd”.

4.

Yn Atodlen 1, mae paragraff 3 fel y’i mewnosodir gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 20213wedi ei ailrifo yn baragraff 3A.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae rheoliad 2A o’r Rheoliadau hynny yn cynnwys esemptiadau i ofynion ynysu a gofynion profi penodol mewn perthynas â chategorïau penodol o deithwyr sydd wedi eu brechu yn erbyn y coronafeirws neu sydd o dan 18 oed.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn darparu nad yw’r esemptiadau yn rheoliad 2A yn rhychwantu personau sy’n teithio o Ffrainc Fetropolitanaidd.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall drafftio yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.