Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 860 (Cy. 199)

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

15 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

1 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 83(2B) a (5), 84(b) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 196(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

2.  Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(3) wedi eu diwygio fel y darperir ar eu cyfer yn rheoliadau 3 i 6.

Diwygiad i reoliad 2

3.  Yn y diffiniad o “cynllun addysg personol” yn rheoliad 2(1)(4), yn lle “yn rheoliad 5(b)(ii)” rhodder “gan adran 83(2A) o Ddeddf 2014(5)”.

Diwygiad i reoliad 3

4.  Yn rheoliad 3, yn lle “Nid yw’r Rheoliadau hyn” rhodder “Nid yw Rhannau 2 i 10”.

Mewnosod Rhan 1A

5.  Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—

RHAN 1APLANT NAD OES CYNLLUN ADDYSG PERSONOL I GAEL EI LUNIO AR EU CYFER

3A.  Rhagnodir y categorïau a ganlyn o blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion adran 83(2B) o Ddeddf 2014—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(6) oni bai bod y plentyn yn dod o fewn rheoliad 56;

(b)unrhyw blentyn y mae’r amgylchiadau a nodir yn rheoliad 62(2) yn gymwys mewn perthynas ag ef;

(c)unrhyw blentyn nad yw ond yn derbyn gofal oherwydd ei fod ar remánd i lety cadw ieuenctid.

Diwygiadau i reoliad 5

6.  Yn rheoliad 5—

(a)hepgorer paragraff (1)(b)(ii);

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i’r cynllun addysg personol (gweler adran 83(2A) i (2D) o Ddeddf 2014) gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

15 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)) (“Rheoliadau 2015”) yng ngoleuni diwygiadau i adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”) a wnaed gan adran 16 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2). Mae rheoliad 6 yn dileu’r gofyniad yn Rheoliadau 2015 fod cynllun gofal a chymorth yn cynnwys cynllun addysg personol, oherwydd bod y gofyniad hwnnw wedi ei fewnosod yn adran 83 o Ddeddf 2014. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi’r categorïau o blant sy’n derbyn gofal nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar eu cyfer fel rhan o’u cynllun gofal a chymorth. Y categorïau a ragnodir yw’r rheini nad oedd cynllun addysg personol yn ofynnol ar eu cyfer gan Reoliadau 2015. Nid yw’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun addysg personol wedi newid.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2014 dccc 4. Gweler adran 197(1) am y diffiniad o “rheoliadau”. Mewnosodwyd adran 83(2A) i (2D), ac mae adran 83(5) ac is-adrannau eraill o adran 83 wedi eu diwygio, gan adran 16 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2). Diwygiwyd adran 196(6) gan baragraff 24(1) a (4) o Atodlen 1 i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(2)

Y rhain yw’r rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 83(2B). Mae’r cyfeiriad yn adran 196(6) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 2015/1818 (Cy. 261).

(4)

Mae diwygiadau i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol.

(5)

Mewnosodwyd adran 83(2A) gan adran 16 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill