Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 20152.
Diwygiad i reoliad 23.
Diwygiad i reoliad 34.
Yn rheoliad 3, yn lle “Nid yw’r Rheoliadau hyn” rhodder “Nid yw Rhannau 2 i 10”.
Mewnosod Rhan 1A5.
“RHAN 1APLANT NAD OES CYNLLUN ADDYSG PERSONOL I GAEL EI LUNIO AR EU CYFER
3A.
Rhagnodir y categorïau a ganlyn o blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion adran 83(2B) o Ddeddf 2014—
(a)
unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20026 oni bai bod y plentyn yn dod o fewn rheoliad 56;(b)
unrhyw blentyn y mae’r amgylchiadau a nodir yn rheoliad 62(2) yn gymwys mewn perthynas ag ef;
(c)
unrhyw blentyn nad yw ond yn derbyn gofal oherwydd ei fod ar remánd i lety cadw ieuenctid.”
Diwygiadau i reoliad 56.
Yn rheoliad 5—
(a)
hepgorer paragraff (1)(b)(ii);
(b)
“(1A)
Rhaid i’r cynllun addysg personol (gweler adran 83(2A) i (2D) o Ddeddf 2014) gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)) (“Rheoliadau 2015”) yng ngoleuni diwygiadau i adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”) a wnaed gan adran 16 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2). Mae rheoliad 6 yn dileu’r gofyniad yn Rheoliadau 2015 fod cynllun gofal a chymorth yn cynnwys cynllun addysg personol, oherwydd bod y gofyniad hwnnw wedi ei fewnosod yn adran 83 o Ddeddf 2014. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi’r categorïau o blant sy’n derbyn gofal nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar eu cyfer fel rhan o’u cynllun gofal a chymorth. Y categorïau a ragnodir yw’r rheini nad oedd cynllun addysg personol yn ofynnol ar eu cyfer gan Reoliadau 2015. Nid yw’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun addysg personol wedi newid.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.