- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r Rheoliadau yn darparu bod Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 2 i Lefel Rhybudd 1 o 6.00 a.m. ar 7 Mehefin 2021. Mae hyn yn golygu bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlen 1 i’r prif Reoliadau yn cymryd effaith.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 1 i’r prif Reoliadau er mwyn—
cyfyngu ar gynulliadau o dan do mewn anheddau preifat i aelodau o un aelwyd neu aelwyd estynedig yn unig. Caiff aelwydydd estynedig gynnwys hyd at dair aelwyd ac un aelwyd anghenion llesiant;
darparu y caiff hyd at 30 o bobl ymgynnull mewn unrhyw fangre yn yr awyr agored, gan gynnwys yn yr awyr agored mewn gerddi preifat a mangreoedd rheoleiddiedig;
darparu na chaiff mwy na 30 o bobl fynd i ddathliad o dan do o briodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ddathliad o dan do o fywyd person ymadawedig;
darparu na chaiff mwy na 30 o bobl fynd i gynulliad rheoleiddiedig o dan do;
darparu y caiff person mewn digwyddiad rheoleiddiedig a gynhelir yn yr awyr agored gymryd rhan mewn cynulliad sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl;
darparu na chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, drefnu digwyddiad oni bai ei fod yn ddigwyddiad rheoleiddiedig, yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, a lle nad yw mwy na 10,000 (pan fo pob person sy’n bresennol yn eistedd fel arfer) neu 4,000 (ar gyfer digwyddiadau eraill) o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg. Mae eithriadau cyfyngedig sy’n parhau i ganiatáu, er enghraifft, priodasau, angladdau, dathliadau o briodasau etc., cynulliadau rheoleiddiedig bach, a digwyddiadau mewn anheddau preifat (ym mhob achos, pa un a ydynt yn digwydd o dan do ai peidio). Mae newidiadau cyfatebol wedi eu gwneud hefyd i’r paragraffau perthnasol yn Atodlenni 2 i 4, ond gyda niferoedd llai o bobl a gaiff fod yn bresennol;
ei gwneud yn ofynnol i rinciau sglefrio iâ barhau i fod ar gau.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud yn glir effaith diwygiad sydd wedi ei wneud gan O.S. 2021/583 (Cy. 160) i’r rheolau ar weini bwyd a diod mewn sinemâu, meysydd chwaraeon a theatrau trwyddedig ac yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol eraill.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys