NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn darparu bod Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 2 i Lefel Rhybudd 1 o 6.00 a.m. ar 7 Mehefin 2021. Mae hyn yn golygu bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlen 1 i’r prif Reoliadau yn cymryd effaith.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 1 i’r prif Reoliadau er mwyn—

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud yn glir effaith diwygiad sydd wedi ei wneud gan O.S. 2021/583 (Cy. 160) i’r rheolau ar weini bwyd a diod mewn sinemâu, meysydd chwaraeon a theatrau trwyddedig ac yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol eraill.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.