Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau—

  • yn darparu bod Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 3 i Lefel Rhybudd 2, gan olygu bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn cymryd effaith;

  • yn diwygio Atodlen 2 i newid y rheol ar ymgynnull gydag eraill yn unrhyw le ac eithrio yng nghartrefi pobl neu mewn llety gwyliau neu lety teithio, fel y caiff 6 o bobl o aelwydydd gwahanol gyfarfod (yn hytrach na 4);

  • yn darparu y bydd y prif Reoliadau yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 27 Awst 2021 (yn hytrach na 28 Mai 2021);

  • yn datgymhwyso’r cyfyngiad ar ymadael â Chymru i fynd i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin heb esgus rhesymol ac ar gyflwyno ffurflen datganiad teithio rhyngwladol os gwneir hynny;

  • yn llacio’r rheolau ar wasanaeth mewn sinemâu, meysydd chwaraeon a theatrau fel mai dim ond wrth fwyta neu yfed y mae rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd (ac nid wrth archebu bwyd neu ddiod neu wrth weini bwyd neu ddiod iddynt);

  • yn ei gwneud yn glir, at ddibenion y prif Reoliadau, fod “gweithgaredd wedi ei drefnu” yn “cynulliad” drwy ei ailenwi’n “cynulliad rheoleiddiedig”;

  • yn diwygio’r ddarpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi digwyddiadau penodol fel y cânt awdurdodi digwyddiadau y caiff unrhyw nifer o bobl fod yn bresennol ynddynt (gan gynnwys nifer a ganiateir eisoes) ac y cânt addasu’r gofynion i gymryd mesurau rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws a fyddai fel arall yn gymwys yn unol â rheoliadau 16, 17 a 17A;

  • yn ei gwneud yn glir nad yw’r eithriad i’r gwaharddiad ar ddigwyddiadau graddfa fawr sy’n gymwys i arddangosiad ffilm, perfformiad theatraidd, marchnad a gwasanaeth crefyddol yn cael effaith ond pan fo’n digwydd mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y dibenion hynny neu yn yr awyr agored (ond, ar Lefelau Rhybudd 3 a 4, nid yw’r newid hwn ond yn gymwys i farchnadoedd a gwasanaethau crefyddol).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 27 Awst 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill