(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r diwygiadau—
yn darparu bod Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 3 i Lefel Rhybudd 2, gan olygu bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn cymryd effaith;
yn diwygio Atodlen 2 i newid y rheol ar ymgynnull gydag eraill yn unrhyw le ac eithrio yng nghartrefi pobl neu mewn llety gwyliau neu lety teithio, fel y caiff 6 o bobl o aelwydydd gwahanol gyfarfod (yn hytrach na 4);
yn darparu y bydd y prif Reoliadau yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 27 Awst 2021 (yn hytrach na 28 Mai 2021);
yn datgymhwyso’r cyfyngiad ar ymadael â Chymru i fynd i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin heb esgus rhesymol ac ar gyflwyno ffurflen datganiad teithio rhyngwladol os gwneir hynny;
yn llacio’r rheolau ar wasanaeth mewn sinemâu, meysydd chwaraeon a theatrau fel mai dim ond wrth fwyta neu yfed y mae rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd (ac nid wrth archebu bwyd neu ddiod neu wrth weini bwyd neu ddiod iddynt);
yn ei gwneud yn glir, at ddibenion y prif Reoliadau, fod “gweithgaredd wedi ei drefnu” yn “cynulliad” drwy ei ailenwi’n “cynulliad rheoleiddiedig”;
yn diwygio’r ddarpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi digwyddiadau penodol fel y cânt awdurdodi digwyddiadau y caiff unrhyw nifer o bobl fod yn bresennol ynddynt (gan gynnwys nifer a ganiateir eisoes) ac y cânt addasu’r gofynion i gymryd mesurau rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws a fyddai fel arall yn gymwys yn unol â rheoliadau 16, 17 a 17A;
yn ei gwneud yn glir nad yw’r eithriad i’r gwaharddiad ar ddigwyddiadau graddfa fawr sy’n gymwys i arddangosiad ffilm, perfformiad theatraidd, marchnad a gwasanaeth crefyddol yn cael effaith ond pan fo’n digwydd mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y dibenion hynny neu yn yr awyr agored (ond, ar Lefelau Rhybudd 3 a 4, nid yw’r newid hwn ond yn gymwys i farchnadoedd a gwasanaethau crefyddol).
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 27 Awst 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.