Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 542 (Cy. 154)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

29 Ebrill 2021

Yn dod i rym

3 Mai 2021

I’w osod gerbron Senedd Cymru

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn dechrau’r diwrnod ar 3 Mai 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4, hepgorer paragraffau (6A) a (6B).

(3Yn Atodlen 1, paragraff 3(5)(ba), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”.

(4Yn Atodlen 2—

(a)yn lle paragraff 2(6)(k) rhodder—

(k)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);;

(b)ym mharagraff 3(6)(aa), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”.

(5Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 4(6)(b), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”;

(b)ym mharagraff 9—

(i)yn is-baragraff (2) hepgorer “33 (sbaon),”;

(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraff 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).;

(c)yn lle paragraff 33 rhodder—

33.  Ystafelloedd stêm.

(6Hepgorer Atodlen 3A.

(7Yn Atodlen 5—

(a)yn y pennawd, hepgorer “ac addasiadau dros dro”;

(b)hepgorer paragraff 2.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021

3.  Mae rheoliad 2(13)(b)(vii)(dd) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021(3) wedi ei ddiddymu.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

4.  Yn rheoliad 6(2)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(4), yn lle “paragraff 2” rhodder “paragraff 3”.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

29 Ebrill 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau yn darparu, o 3 Mai 2021, fod Cymru gyfan ar Lefel Rhybudd 3 yn llawn a bod y cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion dros dro (trosiannol) a nodir yn Atodlen 3A, sydd wedi bod yn gymwys i Gymru gyfan ers 27 Mawrth 2021, wedi eu dirymu.

Mae symud i gyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 llawn Atodlen 3 yn golygu, o 3 Mai 2021—

  • y caiff unrhyw aelwyd gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag un aelwyd arall (ac â’r aelwyd honno yn unig), neu â dwy aelwyd arall os yw un o’r aelwydydd yn aelwyd anghenion llesiant;

  • y caniateir gweithgareddau wedi eu trefnu o dan do ar gyfer grwpiau o hyd at 15 o bobl, heb gyfrif personau o dan 11 oed;

  • y caniateir i weithgareddau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant gael eu cynnal o dan do hefyd;

  • y caniateir i ganolfannau cymunedol agor eu mangreoedd o dan do hefyd;

  • y caniateir i gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff o dan do agor.

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Atodlen 3 i ganiatáu i sbaon agor o dan y cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 (ond mae’n ofynnol i ystafelloedd stêm aros ar gau).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn cywiro mân wall a wnaed wrth ddiwygio paragraff 2(6)(k) o Atodlen 2 i’r prif Reoliadau gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502 (Cy. 150)) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 225)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill