Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn dechrau’r diwrnod ar 3 Mai 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202.
(1)
(2)
Yn rheoliad 4, hepgorer paragraffau (6A) a (6B).
(3)
Yn Atodlen 1, paragraff 3(5)(ba), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”.
(4)
Yn Atodlen 2—
(a)
“(k)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);”;
(b)
ym mharagraff 3(6)(aa), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”.
(5)
Yn Atodlen 3—
(a)
ym mharagraff 4(6)(b), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”;
(b)
ym mharagraff 9—
(i)
yn is-baragraff (2) hepgorer “33 (sbaon),”;
(ii)
“(4)
Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraff 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).”;
(c)
“33.
Ystafelloedd stêm.”
(6)
Hepgorer Atodlen 3A.
(7)
Yn Atodlen 5—
(a)
yn y pennawd, hepgorer “ac addasiadau dros dro”;
(b)
hepgorer paragraff 2.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 20213.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 20204.
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r diwygiadau yn darparu, o 3 Mai 2021, fod Cymru gyfan ar Lefel Rhybudd 3 yn llawn a bod y cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion dros dro (trosiannol) a nodir yn Atodlen 3A, sydd wedi bod yn gymwys i Gymru gyfan ers 27 Mawrth 2021, wedi eu dirymu.
Mae symud i gyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 llawn Atodlen 3 yn golygu, o 3 Mai 2021—
y caiff unrhyw aelwyd gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag un aelwyd arall (ac â’r aelwyd honno yn unig), neu â dwy aelwyd arall os yw un o’r aelwydydd yn aelwyd anghenion llesiant;
y caniateir gweithgareddau wedi eu trefnu o dan do ar gyfer grwpiau o hyd at 15 o bobl, heb gyfrif personau o dan 11 oed;
y caniateir i weithgareddau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant gael eu cynnal o dan do hefyd;
y caniateir i ganolfannau cymunedol agor eu mangreoedd o dan do hefyd;
y caniateir i gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff o dan do agor.
Mae’r Rheoliadau yn diwygio Atodlen 3 i ganiatáu i sbaon agor o dan y cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 (ond mae’n ofynnol i ystafelloedd stêm aros ar gau).
Mae’r Rheoliadau hefyd yn cywiro mân wall a wnaed wrth ddiwygio paragraff 2(6)(k) o Atodlen 2 i’r prif Reoliadau gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502 (Cy. 150)) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 225)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.