Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—

(a)yn estyn dyddiad dod i ben y prif Reoliadau i 28 Mai 2021;

(b)yn dirymu cyfyngiadau sy’n gwahardd disgyblion a myfyrwyr rhag mynd i ysgolion a cholegau addysg bellach;

(c)yn ei gwneud yn glir y caniateir defnyddio mangreoedd sydd ar gau i’r cyhoedd, megis theatrau, i ymarfer ar gyfer perfformiad;

(d)yn darparu na waherddir digwyddiad chwaraeon, os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol, o dan y cyfyngiadau sy’n gymwys i Lefel Rhybudd 3;

(e)yn gwneud mân newidiadau technegol i’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r broses i bobl gytuno i ffurfio aelwydydd estynedig, er mwyn adlewyrchu’r ffaith nad oes person sy’n 18 oed neu drosodd ar bob aelwyd;

(f)yn atgynhyrchu’r newidiadau a wnaed o’r blaen i gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4, a oedd yn galluogi’r rhai o dan 18 oed sy’n byw ar eu pennau eu hunain i ffurfio aelwyd estynedig, ar gyfer Lefelau Rhybudd 1, 2 a 3;

(g)yn gwneud addasiadau dros dro i’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n gymwys i ardal Lefel Rhybudd 4 o dan Atodlen 4 i’r prif Reoliadau, sydd—

(i)yn estyn cyfnod para’r addasiadau dros dro a wnaed o’r blaen tan ddiwedd y diwrnod ar 26 Mawrth 2021;

(ii)o 13 Mawrth 2021, yn newid y gwaharddiad ym mharagraff 1 o Atodlen 4 ar ymadael â’r man lle y mae person yn byw (heb esgus rhesymol) fel y daw’n waharddiad ar ymadael â’r ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw (heb esgus rhesymol);

(iii)o 13 Mawrth 2021, yn darparu bod gan berson esgus rhesymol dros ymadael â’r ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw, ac ymgynnull, wrth ymweld â ffrind neu berthynas mewn cartref gofal, cyhyd ag y bo ganddo ganiatâd y person sy’n gyfrifol am y cartref gofal;

(iv)o 13 Mawrth 2021, yn darparu y caiff hyd at 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed na gofalwyr) o ddim mwy na 2 aelwyd ymgynnull yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, at unrhyw ddiben;

(v)o 13 Mawrth 2021, yn darparu na waherddir digwyddiad chwaraeon os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol;

(vi)o 15 Mawrth 2021, yn caniatáu i salonau gwallt a barbwyr agor at ddibenion torri, steilio neu liwio gwallt (yn unig), drwy apwyntiad;

(vii)o 13 Mawrth 2021, yn caniatáu i gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff awyr agored agor;

(viii)o 22 Mawrth 2021, yn darparu y caiff archfarchnadoedd a siopau eraill sy’n gwerthu sawl math o nwyddau, sydd eisoes ar agor i’r cyhoedd ac sy’n gwerthu’n bennaf y nwyddau y caniateir eu gwerthu yn unol â chyfyngiadau Lefel Rhybudd 4, werthu nwyddau eraill yn eu mangreoedd;

(ix)o 22 Mawrth 2021, yn caniatáu i ganolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion agor;

(h)yn gwneud mân newidiadau eraill a newidiadau canlyniadol eraill.

Er gwaethaf yr esgus rhesymol i bobl ymgynnull i weithio neu i ddarparu gwasanaethau elusennol, ac er gwaethaf yr addasiad dros dro i Atodlen 4 sy’n caniatáu i 4 o bobl o ddim mwy na 2 aelwyd ymgynnull yn yr awyr agored at unrhyw ddibenion, mae darpariaeth wedi ei gwneud i wahardd ymgynnull at ddibenion ymgyrchu gwleidyddol (er enghraifft, canfasio o ddrws i ddrws). Caniateir y rhan fwyaf o weithgareddau eraill sy’n ymwneud ag etholiad (er enghraifft, mynd i bleidleisio neu ddosbarthu deunydd ymgyrchu).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 28 Mai 2021 (ac yn gwneud addasiad dros dro i reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny sy’n ganlyniadol ar ddiwygiadau a wneir i’r prif Reoliadau).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill