Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—
yn estyn dyddiad dod i ben y prif Reoliadau i 28 Mai 2021;
yn dirymu cyfyngiadau sy’n gwahardd disgyblion a myfyrwyr rhag mynd i ysgolion a cholegau addysg bellach;
yn ei gwneud yn glir y caniateir defnyddio mangreoedd sydd ar gau i’r cyhoedd, megis theatrau, i ymarfer ar gyfer perfformiad;
yn darparu na waherddir digwyddiad chwaraeon, os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol, o dan y cyfyngiadau sy’n gymwys i Lefel Rhybudd 3;
yn gwneud mân newidiadau technegol i’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r broses i bobl gytuno i ffurfio aelwydydd estynedig, er mwyn adlewyrchu’r ffaith nad oes person sy’n 18 oed neu drosodd ar bob aelwyd;
yn atgynhyrchu’r newidiadau a wnaed o’r blaen i gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4, a oedd yn galluogi’r rhai o dan 18 oed sy’n byw ar eu pennau eu hunain i ffurfio aelwyd estynedig, ar gyfer Lefelau Rhybudd 1, 2 a 3;
yn gwneud addasiadau dros dro i’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n gymwys i ardal Lefel Rhybudd 4 o dan Atodlen 4 i’r prif Reoliadau, sydd—
yn estyn cyfnod para’r addasiadau dros dro a wnaed o’r blaen tan ddiwedd y diwrnod ar 26 Mawrth 2021;
o 13 Mawrth 2021, yn newid y gwaharddiad ym mharagraff 1 o Atodlen 4 ar ymadael â’r man lle y mae person yn byw (heb esgus rhesymol) fel y daw’n waharddiad ar ymadael â’r ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw (heb esgus rhesymol);
o 13 Mawrth 2021, yn darparu bod gan berson esgus rhesymol dros ymadael â’r ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’n byw, ac ymgynnull, wrth ymweld â ffrind neu berthynas mewn cartref gofal, cyhyd ag y bo ganddo ganiatâd y person sy’n gyfrifol am y cartref gofal;
o 13 Mawrth 2021, yn darparu y caiff hyd at 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed na gofalwyr) o ddim mwy na 2 aelwyd ymgynnull yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, at unrhyw ddiben;
o 13 Mawrth 2021, yn darparu na waherddir digwyddiad chwaraeon os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol;
o 15 Mawrth 2021, yn caniatáu i salonau gwallt a barbwyr agor at ddibenion torri, steilio neu liwio gwallt (yn unig), drwy apwyntiad;
o 13 Mawrth 2021, yn caniatáu i gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff awyr agored agor;
o 22 Mawrth 2021, yn darparu y caiff archfarchnadoedd a siopau eraill sy’n gwerthu sawl math o nwyddau, sydd eisoes ar agor i’r cyhoedd ac sy’n gwerthu’n bennaf y nwyddau y caniateir eu gwerthu yn unol â chyfyngiadau Lefel Rhybudd 4, werthu nwyddau eraill yn eu mangreoedd;
o 22 Mawrth 2021, yn caniatáu i ganolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion agor;
yn gwneud mân newidiadau eraill a newidiadau canlyniadol eraill.
Er gwaethaf yr esgus rhesymol i bobl ymgynnull i weithio neu i ddarparu gwasanaethau elusennol, ac er gwaethaf yr addasiad dros dro i Atodlen 4 sy’n caniatáu i 4 o bobl o ddim mwy na 2 aelwyd ymgynnull yn yr awyr agored at unrhyw ddibenion, mae darpariaeth wedi ei gwneud i wahardd ymgynnull at ddibenion ymgyrchu gwleidyddol (er enghraifft, canfasio o ddrws i ddrws). Caniateir y rhan fwyaf o weithgareddau eraill sy’n ymwneud ag etholiad (er enghraifft, mynd i bleidleisio neu ddosbarthu deunydd ymgyrchu).
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 28 Mai 2021 (ac yn gwneud addasiad dros dro i reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny sy’n ganlyniadol ar ddiwygiadau a wneir i’r prif Reoliadau).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.