- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
3 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2021 a daw i rym ar 1 Ebrill 2021.
2. Yn erthygl 3(2)(c) o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(3), hepgorer “a range of information technology systems and associated support and consultancy services, desktop services, web development, telecommunications services, healthcare information services and”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 er mwyn diwygio swyddogaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre.
Mae’r swyddogaethau wedi eu diwygio er mwyn rhoi cyfrif am roi swyddogaethau i Iechyd a Gofal Digidol Cymru mewn perthynas â darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Nododd rheoliad 2 o Reoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996 (O.S. 1996/653) ofynion yr ymgynghoriad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys