Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 232 (Cy. 58)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2021

Gwnaed

3 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 18(1) a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3)(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2021 a daw i rym ar 1 Ebrill 2021.

Diwygio erthygl 3 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993

2.  Yn erthygl 3(2)(c) o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(3), hepgorer “a range of information technology systems and associated support and consultancy services, desktop services, web development, telecommunications services, healthcare information services and”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 er mwyn diwygio swyddogaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre.

Mae’r swyddogaethau wedi eu diwygio er mwyn rhoi cyfrif am roi swyddogaethau i Iechyd a Gofal Digidol Cymru mewn perthynas â darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(2)

Nododd rheoliad 2 o Reoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996 (O.S. 1996/653) ofynion yr ymgynghoriad.