- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
26 Chwefror 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
2 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1), a pharagraff 15 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021.
2. Yn Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014(2), yn rheoliad 22 (dirprwyo swyddogaethau), ar ôl paragraff (2)(d) mewnosoder—
“(e)swyddogaethau’r awdurdod yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996, pan fo’r swyddogaethau hynny wedi eu rhoi gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(3) neu o dan y Ddeddf honno.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”). Mae angen y diwygiad o ganlyniad i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”).
Yn benodol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 22 o Reoliadau 2014 (dirprwyo swyddogaethau) i ddarparu bod rhaid i awdurdod lleol ddirprwyo’r swyddogaethau penodedig i bwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion (“UCD”).
Y swyddogaethau penodedig yw swyddogaethau’r corff llywodraethu o dan Ddeddf 2018 sydd, yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”), yn swyddogaethau sydd gan yr awdurdod lleol mewn perthynas ag UCD.
Mae paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy’n cynnal UCD sefydlu pwyllgor rheoli ar gyfer yr UCD. Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor gyflawni unrhyw swyddogaethau sydd gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag UCD a ddirprwyir iddo gan yr awdurdod, yn unol â rheoliadau.
Y bwriad yw i bwyllgor rheoli gael yr un swyddogaethau o dan Ddeddf 2018 mewn perthynas ag UCD ag sydd gan gorff llywodraethu mewn perthynas ag ysgol a gynhelir. Er mwyn sicrhau mai dim ond y swyddogaethau hyn a gwmpesir gan y gofyniad i ddirprwyo, mae’r diwygiad i reoliad 22 a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cyfeirio at swyddogaethau cyrff llywodraethu. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei gosod yn uniongyrchol ar yr awdurdod lleol gan Ddeddf 2018 yn cael ei dirprwyo i bwyllgor rheoli.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1996 p. 56; gweler adran 579(1) am y diffiniad o “regulations”. Mewnosodwyd paragraff 15 o Atodlen 1 gan adran 48 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 184(c) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), O.S. 2002/808 (Cy. 89), O.S. 2010/1158 ac yna gan baragraff 9 o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys