Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 6) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 202 (Cy. 49) (C. 5)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 6) 2021

Gwnaed

25 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 6) 2021.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Mawrth 2021

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Mawrth 2021, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

(a)adran 4 (ysmygu);

(b)adran 5 (y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg);

(c)adran 6 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg);

(d)adran 7 (gweithleoedd);

(e)adran 8 (mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd);

(f)adran 9 (lleoliadau gofal awyr agored i blant);

(g)adran 10 (tir ysgolion);

(h)adran 11 (tir ysbytai);

(i)adran 12 (meysydd chwarae cyhoeddus);

(j)adran 13 (mangreoedd di-fwg ychwanegol);

(k)adran 14 (darpariaeth bellach ynghylch mangreoedd di-fwg ychwanegol: anheddau);

(l)adran 17 (arwyddion: mangreoedd di-fwg);

(m)adran 18 (awdurdodau gorfodi);

(n)adran 19 (pwerau mynediad);

(o)adran 20 (gwarant i fynd i mewn i annedd);

(p)adran 21 (gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill);

(q)adran 22 (darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad);

(r)adran 23 (pwerau arolygu etc.);

(s)adran 24 (rhwystro etc. swyddogion);

(t)adran 25 (eiddo a gedwir: apelau);

(u)adran 26 (eiddo a gyfeddir: digolledu);

(v)adran 27 (hysbysiadau cosb benodedig);

(w)adran 28 (dehongli’r Bennod hon);

(x)adran 29 (diwygiadau canlyniadol);

(y)Atodlen 1 (cosbau penodedig); a

(z)Atodlen 2 (ysmygu: diwygiadau canlyniadol).

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru

25 Chwefror 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym Bennod 1 o Ran 3 (adrannau 4 i 29) o’r Ddeddf ar 1 Mawrth 2021, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes wedi eu cychwyn. Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn i rym Atodlen 1 (cosbau penodedig) ac Atodlen 2 (ysmygu: diwygiadau canlyniadol) i’r Ddeddf. Cyflwynir Atodlen 1 gan adrannau 27 a 49 o’r Ddeddf, a chyflwynir Atodlen 2 gan adran 29 o’r Ddeddf.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
(1)

Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn.

(2)

Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn.

Adran 24 Hydref 20172017/949 (Cy. 237) (C. 85)
Adran 34 Hydref 20172017/949 (Cy. 237) (C. 85)
Adran 6 (yn rhannol)29 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 10 (yn rhannol)29 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 11 (yn rhannol)29 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 1529 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 1629 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 17 (yn rhannol)29 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 18 (yn rhannol)29 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 27 (yn rhannol)29 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 28 (yn rhannol)29 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Adran 941 Chwefror 20182018/1 (Cy. 1)(1)
Rhan 51 Chwefror 20182018/1 (Cy. 1)
Rhan 71 Ebrill 20192019/829 (Cy. 152)(2)
Rhan 831 Mai 20182018/605 (Cy. 116) (C. 48)
Adran 1194 Hydref 20172017/949 (Cy. 237) (C. 85)
Atodlen 1 (yn rhannol)29 Medi 20202020/1048 (Cy. 234) (C. 30)
Atodlen 431 Mai 20182018/605 (Cy. 116) (C. 48)

Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill