Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
25 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 6) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Mawrth 2021, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adran 4 (ysmygu);
(b)adran 5 (y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg);
(c)adran 6 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg);
(d)adran 7 (gweithleoedd);
(e)adran 8 (mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd);
(f)adran 9 (lleoliadau gofal awyr agored i blant);
(g)adran 10 (tir ysgolion);
(h)adran 11 (tir ysbytai);
(i)adran 12 (meysydd chwarae cyhoeddus);
(j)adran 13 (mangreoedd di-fwg ychwanegol);
(k)adran 14 (darpariaeth bellach ynghylch mangreoedd di-fwg ychwanegol: anheddau);
(l)adran 17 (arwyddion: mangreoedd di-fwg);
(m)adran 18 (awdurdodau gorfodi);
(n)adran 19 (pwerau mynediad);
(o)adran 20 (gwarant i fynd i mewn i annedd);
(p)adran 21 (gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill);
(q)adran 22 (darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad);
(r)adran 23 (pwerau arolygu etc.);
(s)adran 24 (rhwystro etc. swyddogion);
(t)adran 25 (eiddo a gedwir: apelau);
(u)adran 26 (eiddo a gyfeddir: digolledu);
(v)adran 27 (hysbysiadau cosb benodedig);
(w)adran 28 (dehongli’r Bennod hon);
(x)adran 29 (diwygiadau canlyniadol);
(y)Atodlen 1 (cosbau penodedig); a
(z)Atodlen 2 (ysmygu: diwygiadau canlyniadol).
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym Bennod 1 o Ran 3 (adrannau 4 i 29) o’r Ddeddf ar 1 Mawrth 2021, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes wedi eu cychwyn. Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn i rym Atodlen 1 (cosbau penodedig) ac Atodlen 2 (ysmygu: diwygiadau canlyniadol) i’r Ddeddf. Cyflwynir Atodlen 1 gan adrannau 27 a 49 o’r Ddeddf, a chyflwynir Atodlen 2 gan adran 29 o’r Ddeddf.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
(1) Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn. | ||
(2) Ni ddyrannwyd rhif i’r offeryn yn y gyfres o Offerynnau Cychwyn. | ||
| Adran 2 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
| Adran 3 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
| Adran 6 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 10 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 11 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 15 | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 16 | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 17 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 18 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 27 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 28 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Adran 94 | 1 Chwefror 2018 | 2018/1 (Cy. 1)(1) |
| Rhan 5 | 1 Chwefror 2018 | 2018/1 (Cy. 1) |
| Rhan 7 | 1 Ebrill 2019 | 2019/829 (Cy. 152)(2) |
| Rhan 8 | 31 Mai 2018 | 2018/605 (Cy. 116) (C. 48) |
| Adran 119 | 4 Hydref 2017 | 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) |
| Atodlen 1 (yn rhannol) | 29 Medi 2020 | 2020/1048 (Cy. 234) (C. 30) |
| Atodlen 4 | 31 Mai 2018 | 2018/605 (Cy. 116) (C. 48) |
Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).