- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Pleidiau Gwleidyddol, Cymru
Gwnaed
24 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 3 o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(1) (“Deddf 2000”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn(2).
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi llunio Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 3(4) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000, gosodwyd drafft o God Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.
Yn unol â pharagraff 3(6) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd y Senedd beidio â chymeradwyo Cod Ymarfer drafft Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020, a dyroddwyd y cod ar ffurf y drafft.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020, y gosodwyd drafft ohono gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.
2. Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 25 Chwefror 2021.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 25 Chwefror 2021 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 i rym (“y Cod”).
Lluniodd y Comisiwn Etholiadol y Cod yn unol â pharagraff 3(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”) ac mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod drafft, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.
Mae’r Cod wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 7(a) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 a chaiff y Cod ei gyhoeddi gan y Comisiwn Etholiadol o dan baragraff 7 o Atodlen 8 i Ddeddf 2000.
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys