Gorchymyn Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi llunio Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft ac yn unol â pharagraff 3(4) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000, gosodwyd drafft o God Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.
Yn unol â pharagraff 3(6) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000, o fewn cyfnod o 40 niwrnod, ni phenderfynodd y Senedd beidio â chymeradwyo Cod Ymarfer drafft Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020, a dyroddwyd y cod ar ffurf y drafft.
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020, y gosodwyd drafft ohono gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.
Y Diwrnod Penodedig2.
Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 25 Chwefror 2021.
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 25 Chwefror 2021 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 i rym (“y Cod”).
Lluniodd y Comisiwn Etholiadol y Cod yn unol â pharagraff 3(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”) ac mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod drafft, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.
Mae’r Cod wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 7(a) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 a chaiff y Cod ei gyhoeddi gan y Comisiwn Etholiadol o dan baragraff 7 o Atodlen 8 i Ddeddf 2000.