Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1490 (Cy. 390)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021

Gwnaed

am 2.56 p.m. ar 30 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.00 p.m. ar 30 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am ar 31 Rhagfyr 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”.

(3Yn rheoliad 7—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”.

(4Yn rheoliad 10B, o flaen paragraff (1) mewnosoder—

(A1) Pan fo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 6(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn i’w bennu yn unol â rheoliad 6(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.

(A2) Pan fo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 7(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad y plentyn i’w bennu yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.

(5Yn rheoliad 16(1), o dan y pennawd “Cam 4”, yn is-baragraff (a)(i), yn lle “sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn y 10 niwrnod blaenorol” rhodder “y mae’n ofynnol iddo beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 6(2) neu 7(2)”.

(6Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4(2)(l)(ii), hepgorer “neu’r un aelwyd estynedig”.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 2.56 p.m. ar 30 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—

  • diwygio rheoliadau 6 a 7 o’r prif Reoliadau i ddarparu ei bod bellach yn ofynnol i bersonau sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws hunanynysu am gyfnod o 7 niwrnod (yn hytrach na chyfnod o 10 niwrnod);

  • darparu, pan oedd yn ofynnol i berson ynysu yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, fod diwedd y cyfnod ynysu i’w bennu yn unol â rheoliad 6 neu 7 fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hyn;

  • gwneud mân ddiwygiad o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 (O.S. 2021/1485 (Cy. 386)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill