Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
am 2.56 p.m. ar 30 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 5.00 p.m. ar 30 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am ar 31 Rhagfyr 2021.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”;
(b)ym mharagraff (5), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”.
(3) Yn rheoliad 7—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”;
(b)ym mharagraff (5), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”.
(4) Yn rheoliad 10B, o flaen paragraff (1) mewnosoder—
“(A1) Pan fo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 6(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn i’w bennu yn unol â rheoliad 6(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.
(A2) Pan fo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 7(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad y plentyn i’w bennu yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.”
(5) Yn rheoliad 16(1), o dan y pennawd “Cam 4”, yn is-baragraff (a)(i), yn lle “sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn y 10 niwrnod blaenorol” rhodder “y mae’n ofynnol iddo beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 6(2) neu 7(2)”.
(6) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4(2)(l)(ii), hepgorer “neu’r un aelwyd estynedig”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.56 p.m. ar 30 Rhagfyr 2021
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
diwygio rheoliadau 6 a 7 o’r prif Reoliadau i ddarparu ei bod bellach yn ofynnol i bersonau sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws hunanynysu am gyfnod o 7 niwrnod (yn hytrach na chyfnod o 10 niwrnod);
darparu, pan oedd yn ofynnol i berson ynysu yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, fod diwedd y cyfnod ynysu i’w bennu yn unol â rheoliad 6 neu 7 fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hyn;
gwneud mân ddiwygiad o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 (O.S. 2021/1485 (Cy. 386)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/1609 (Cy. 335) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1610 (Cy. 336), O.S. 2020/1623 (Cy. 340), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/57 (Cy. 13), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/103 (Cy. 28), O.S. 2021/172 (Cy. 40), O.S. 2021/210 (Cy. 52), O.S. 2021/307 (Cy. 79), S.I. 2021/413 (Cy. 133), O.S. 2021/502 (Cy. 150), O.S. 2021/542 (Cy. 154), O.S. 2021/583 (Cy. 160), O.S. 2021/668 (Cy. 169), O.S. 2021/686 (Cy. 172), O.S. 2021/722 (Cy. 183), O.S. 2021/862 (Cy. 201), O.S. 2021/925 (Cy. 210), O.S. 2021/970 (Cy. 228), O.S. 2021/1119 (Cy. 271), O.S. 2021/1131 (Cy. 274), O.S. 2021/1212 (Cy. 303), O.S. 2021/1304 (Cy. 334), O.S. 2021/1363 (Cy. 358), O.S. 2021/1407 (Cy. 366), O.S. 2021/1468 (Cy. 376), O.S. 2021/1477 (Cy. 379) ac O.S. 2021/1485 (Cy. 386).