- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cydraddoldeb, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
am 9.35 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
3 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 2(4)(a) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 209(2), (3)(a) a (6)(2) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2. Yn adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol), yn is-adran (3A)(3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021(4);”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o
Am 9.35 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mae adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“Deddf 2010”) yn darparu’r rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol (“y ddyletswydd”). Caiff Gweinidogion Cymru, o dan adran 2(4)(a) o Ddeddf 2010, ychwanegu awdurdod perthnasol at y rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd. Ystyr “relevant authority” yw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) y mae ei swyddogaethau’n cyfateb i swyddogaethau awdurdod a bennir am y tro yn is-adran (3) neu y cyfeirir ato yn is-adran (4) o adran 1 o Ddeddf 2010 neu y mae ei swyddogaethau’n debyg i swyddogaethau awdurdod o’r fath.
Mae’r Rheoliadau hyn yn arfer y pŵer yn adran 2(4)(a) o Ddeddf 2010 i ddiwygio adran 1 o’r Ddeddf honno er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig at y rhestr o awdurdodau perthnasol sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2010 p. 15. Mae adran 2(4)(a) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn ychwanegu awdurdod perthnasol at y rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 1. Mae “relevant authority” wedi ei ddiffinio yn adran 2(6), a ddiwygiwyd gan baragraff 83(1) a (2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).
Mae’r cyfeiriad yn adran 209(6) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Mewnosodwyd is-adran (3A) gan O.S. 2021/295 (Cy. 72).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys