Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
Diwygio Deddf Cydraddoldeb 20102.
“(ba)
a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 20214;”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mae adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“Deddf 2010”) yn darparu’r rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol (“y ddyletswydd”). Caiff Gweinidogion Cymru, o dan adran 2(4)(a) o Ddeddf 2010, ychwanegu awdurdod perthnasol at y rhestr o awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd. Ystyr “relevant authority” yw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) y mae ei swyddogaethau’n cyfateb i swyddogaethau awdurdod a bennir am y tro yn is-adran (3) neu y cyfeirir ato yn is-adran (4) o adran 1 o Ddeddf 2010 neu y mae ei swyddogaethau’n debyg i swyddogaethau awdurdod o’r fath.
Mae’r Rheoliadau hyn yn arfer y pŵer yn adran 2(4)(a) o Ddeddf 2010 i ddiwygio adran 1 o’r Ddeddf honno er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig at y rhestr o awdurdodau perthnasol sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.