Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1292 (Cy. 327)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

am 5.55 p.m. ar 19 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), 15(5), 17(1), 23 a 25 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl iddo gael ei wneud.

Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006

2.  Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Diwygio erthygl 2 (dehongli)

3.  Yn erthygl 2 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “wild bird control area” hepgorer “or 5(3)”;

(b)yn y diffiniad o “wild bird monitoring area” hepgorer “or 5(3)”.

Diwygio erthygl 5 (cadarnhau neu amau bod H5N1 mewn adar gwyllt)

4.  Yn erthygl 5 (cadarnhau neu amau bod H5N1 mewn adar gwyllt)—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle “If the wild bird or carcase was found in Wales, the” rhodder “The”;

(ii)yn lle “must declare” rhodder “, after considering a risk assessment, may declare”;

(b)hepgorer paragraffau (3), (4) a (5);

(c)ym mharagraff (6) hepgorer “, (3)(a) or (3)(b)”;

(d)ym mharagraff (7) hepgorer “, (3)(a) or (3)(c)”.

Diwygio erthygl 6 (rhychwant ardaloedd rheoli a monitro adar gwyllt)

5.  Yn erthygl 6 (rhychwant ardaloedd rheoli a monitro adar gwyllt), ym mharagraff (9), yn lle “5(3)” rhodder “5(2)”.

Diwygio erthygl 11 (dyletswydd i arolygu mangreoedd dofednod)

6.  Yn erthygl 11 (dyletswydd i arolygu mangreoedd dofednod), yn is-baragraff (1)(b), yn lle “all premises where poultry are kept within the wild bird control area as often” rhodder “such premises within the wild bird control area at such frequency”.

Diwygio erthygl 12 (cynnal ardaloedd)

7.  Yn erthygl 12 (cynnal ardaloedd), ym mharagraff 2(c) yn lle “at least one visit to each of those premises” rhodder “such visits as considered necessary”.

Diwygio Atodlen 3 (mesurau bioddiogelwch)

8.  Yn Atodlen 3 (mesurau bioddiogelwch), ym mharagraff 4(b), hepgorer “(unless it is carrying poultry)”.

Dirymu

9.  Mae Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Awst 2006 ynghylch mesurau diogelu penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn o’r is-deip H5N1 mewn adar gwyllt yn y Gymuned ac sy’n diddymu Penderfyniad 2006/115/EC(3) wedi ei ddirymu.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

Am 5.55 p.m. ar 19 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys yng Nghymru yn unig, yn diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3310 (Cy. 300)) (“y prif Orchymyn”) ac yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Awst 2006 ynghylch mesurau amddiffyn penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn o’r is-deip H5N1 mewn adar gwyllt yn y Gymuned ac sy’n diddymu Penderfyniad 2006/115/EC (“Penderfyniad y Comisiwn”).

Mae erthygl 4 yn diwygio erthygl 5 o’r prif Orchymyn ac yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru i ddatgan ardal rheoli adar gwyllt ac ardal monitro adar gwyllt o dan amgylchiadau penodol, yn lle’r rhwymedigaeth a oedd arnynt i wneud hynny.

Mae erthyglau 2, 5 a 7 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Mae erthygl 6 yn diwygio erthygl 11(1) o’r prif Orchymyn fel bod rhaid i Weinidogion Cymru, ymysg pethau eraill, sicrhau bod arolygydd milfeddygol yn ymweld â’r mangreoedd hynny o fewn yr ardal rheoli adar gwyllt mor aml ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn monitro lledaeniad posibl ffliw adar.

Mae erthygl 8 yn diwygio paragraff 4(b) o Atodlen 3 i’r prif Orchymyn fel bod y gofyniad bod rhaid i berson sy’n mynd i fangre neu’n ei gadael sicrhau nad yw’r tu allan i’r cerbyd wedi ei faeddu â llaid, ysgarthion anifeiliaid neu adar etc. hefyd yn gymwys i gerbydau sy’n cludo dofednod.

Mae erthygl 9 yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p. 22. Mae swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) (fel y’u diffinnir yn adran 86(1) o’r Ddeddf honno) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae’r pwerau yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981, wrth eu darllen gyda pharagraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), yn caniatáu gwneud addasiadau i fân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir fel y diffinnir “retained direct minor EU legislation” yn adran 7(6) o’r Ddeddf. Mae “modify” wedi ei ddiffinio yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ac mae’n cynnwys “amend, repeal or revoke”.

(2)

O.S. 2006/3310 (Cy. 300) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/517 (Cy. 60). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(3)

2006/563/EC.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill