2021 Rhif 1292 (Cy. 327)
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), 15(5), 17(1), 23 a 25 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl iddo gael ei wneud.

Diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 20062.

Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 20062 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Diwygio erthygl 2 (dehongli)3.

Yn erthygl 2 (dehongli)—

(a)

yn y diffiniad o “wild bird control area” hepgorer “or 5(3)”;

(b)

yn y diffiniad o “wild bird monitoring area” hepgorer “or 5(3)”.

Diwygio erthygl 5 (cadarnhau neu amau bod H5N1 mewn adar gwyllt)4.

Yn erthygl 5 (cadarnhau neu amau bod H5N1 mewn adar gwyllt)—

(a)

ym mharagraff (2)—

(i)

yn lle “If the wild bird or carcase was found in Wales, the” rhodder “The”;

(ii)

yn lle “must declare” rhodder “, after considering a risk assessment, may declare”;

(b)

hepgorer paragraffau (3), (4) a (5);

(c)

ym mharagraff (6) hepgorer “, (3)(a) or (3)(b)”;

(d)

ym mharagraff (7) hepgorer “, (3)(a) or (3)(c)”.

Diwygio erthygl 6 (rhychwant ardaloedd rheoli a monitro adar gwyllt)5.

Yn erthygl 6 (rhychwant ardaloedd rheoli a monitro adar gwyllt), ym mharagraff (9), yn lle “5(3)” rhodder “5(2)”.

Diwygio erthygl 11 (dyletswydd i arolygu mangreoedd dofednod)6.

Yn erthygl 11 (dyletswydd i arolygu mangreoedd dofednod), yn is-baragraff (1)(b), yn lle “all premises where poultry are kept within the wild bird control area as often” rhodder “such premises within the wild bird control area at such frequency”.

Diwygio erthygl 12 (cynnal ardaloedd)7.

Yn erthygl 12 (cynnal ardaloedd), ym mharagraff 2(c) yn lle “at least one visit to each of those premises” rhodder “such visits as considered necessary”.

Diwygio Atodlen 3 (mesurau bioddiogelwch)8.

Yn Atodlen 3 (mesurau bioddiogelwch), ym mharagraff 4(b), hepgorer “(unless it is carrying poultry)”.

Dirymu9.

Mae Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Awst 2006 ynghylch mesurau diogelu penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn o’r is-deip H5N1 mewn adar gwyllt yn y Gymuned ac sy’n diddymu Penderfyniad 2006/115/EC3 wedi ei ddirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys yng Nghymru yn unig, yn diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3310 (Cy. 300)) (“y prif Orchymyn”) ac yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Awst 2006 ynghylch mesurau amddiffyn penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn o’r is-deip H5N1 mewn adar gwyllt yn y Gymuned ac sy’n diddymu Penderfyniad 2006/115/EC (“Penderfyniad y Comisiwn”).

Mae erthygl 4 yn diwygio erthygl 5 o’r prif Orchymyn ac yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru i ddatgan ardal rheoli adar gwyllt ac ardal monitro adar gwyllt o dan amgylchiadau penodol, yn lle’r rhwymedigaeth a oedd arnynt i wneud hynny.

Mae erthyglau 2, 5 a 7 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Mae erthygl 6 yn diwygio erthygl 11(1) o’r prif Orchymyn fel bod rhaid i Weinidogion Cymru, ymysg pethau eraill, sicrhau bod arolygydd milfeddygol yn ymweld â’r mangreoedd hynny o fewn yr ardal rheoli adar gwyllt mor aml ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn monitro lledaeniad posibl ffliw adar.

Mae erthygl 8 yn diwygio paragraff 4(b) o Atodlen 3 i’r prif Orchymyn fel bod y gofyniad bod rhaid i berson sy’n mynd i fangre neu’n ei gadael sicrhau nad yw’r tu allan i’r cerbyd wedi ei faeddu â llaid, ysgarthion anifeiliaid neu adar etc. hefyd yn gymwys i gerbydau sy’n cludo dofednod.

Mae erthygl 9 yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.