Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1216 (Cy. 305)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

1 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas Casnewydd;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd

3.—(1Mae wardiau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi ei rhannu’n 21 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Cymunedau Graig a Thŷ-du: newidiadau i ffiniau cymunedol

4.  Mae’r rhan o gymuned Graig a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i gymuned Tŷ-du, ac yn ffurfio rhan o ward Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.

Cymuned Tŷ-du: newidiadau i drefniadau etholiadol

5.  Yng nghymuned Tŷ-du—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Tŷ-du yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Tŷ-du yw 4;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Tŷ-du yw 7.

Cymunedau Pilgwenlli a Stow Hill: newidiadau i ffiniau cymunedol

6.  Mae’r rhan o gymuned Pilgwenlli a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i gymuned Stow Hill.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2021

Erthygl 3

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Allt-yr-ynAllt-yr-ynnCymuned Allt-yr-ynn3
AlwayAlwayCymuned Alway3
BeechwoodBeechwoodCymuned Beechwood3
BettwsBetwsCymuned Betws3
Bishton and LangstoneTrefesgob a LangstoneCymunedau Trefesgob, Langstone, Llanfaches, a Phen-hw2
CaerleonCaerllionCymuned Caerllion3
GaerGaerCymuned Gaer3
GraigGraigCymuned Graig2
LliswerryLlyswyryCymuned Llyswyry4
LlanwernLlan-wernCymunedau Allteuryn, Llan-wern, Trefonnen a Redwick1
MalpasMalpasCymuned Malpas3
PillgwenllyPilgwenlliCymuned Pilgwenlli2
RinglandRinglandCymuned Ringland3
Rogerstone EastDwyrain Tŷ-duWard Dwyrain Tŷ-du o gymuned Tŷ-du1
Rogerstone NorthGogledd Tŷ-duWard Gogledd Tŷ-du o gymuned Tŷ-du1
Rogerstone WestGorllewin Tŷ-duWard Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du2
ShaftesburyShaftesburyCymuned Shaftesbury2
St JuliansSain SilianCymuned Sain Silian3
Stow HillStow HillCymuned Stow Hill2
Tredegar Park and MarshfieldParc Tredegar a MaerunCymunedau Maerun, Llanfihangel-y-fedw, Coedcernyw, Gwynllŵg a Pharc Tredegar3
VictoriaVictoriaCymuned Victoria2

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 20 i 21 a chynyddu nifer y cynghorwyr o 50 i 51.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiad.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ar gyfer newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Ninas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Graig a Thŷ-du. Mae erthygl 5 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dwyrain Tŷ-du, Gogledd Tŷ-du a Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Pilgwenlli a Stow Hill.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Dinas Casnewydd. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill