2021 Rhif 1216 (Cy. 305)
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2)

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3)

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.

Dehongli2.

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas Casnewydd;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd3.

(1)

Mae wardiau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2)

Mae Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi ei rhannu’n 21 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.

Cymunedau Graig a Thŷ-du: newidiadau i ffiniau cymunedol4.

Mae’r rhan o gymuned Graig a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i gymuned Tŷ-du, ac yn ffurfio rhan o ward Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.

Cymuned Tŷ-du: newidiadau i drefniadau etholiadol5.

Yng nghymuned Tŷ-du—

(a)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Tŷ-du yw 4;

(b)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Tŷ-du yw 4;

(c)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Tŷ-du yw 7.

Cymunedau Pilgwenlli a Stow Hill: newidiadau i ffiniau cymunedol6.

Mae’r rhan o gymuned Pilgwenlli a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i gymuned Stow Hill.

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 3

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Allt-yr-yn

Allt-yr-ynn

Cymuned Allt-yr-ynn

3

Alway

Alway

Cymuned Alway

3

Beechwood

Beechwood

Cymuned Beechwood

3

Bettws

Betws

Cymuned Betws

3

Bishton and Langstone

Trefesgob a Langstone

Cymunedau Trefesgob, Langstone, Llanfaches, a Phen-hw

2

Caerleon

Caerllion

Cymuned Caerllion

3

Gaer

Gaer

Cymuned Gaer

3

Graig

Graig

Cymuned Graig

2

Lliswerry

Llyswyry

Cymuned Llyswyry

4

Llanwern

Llan-wern

Cymunedau Allteuryn, Llan-wern, Trefonnen a Redwick

1

Malpas

Malpas

Cymuned Malpas

3

Pillgwenlly

Pilgwenlli

Cymuned Pilgwenlli

2

Ringland

Ringland

Cymuned Ringland

3

Rogerstone East

Dwyrain Tŷ-du

Ward Dwyrain Tŷ-du o gymuned Tŷ-du

1

Rogerstone North

Gogledd Tŷ-du

Ward Gogledd Tŷ-du o gymuned Tŷ-du

1

Rogerstone West

Gorllewin Tŷ-du

Ward Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du

2

Shaftesbury

Shaftesbury

Cymuned Shaftesbury

2

St Julians

Sain Silian

Cymuned Sain Silian

3

Stow Hill

Stow Hill

Cymuned Stow Hill

2

Tredegar Park and Marshfield

Parc Tredegar a Maerun

Cymunedau Maerun, Llanfihangel-y-fedw, Coedcernyw, Gwynllŵg a Pharc Tredegar

3

Victoria

Victoria

Cymuned Victoria

2

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 20 i 21 a chynyddu nifer y cynghorwyr o 50 i 51.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiad.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ar gyfer newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Ninas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Graig a Thŷ-du. Mae erthygl 5 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dwyrain Tŷ-du, Gogledd Tŷ-du a Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Pilgwenlli a Stow Hill.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Dinas Casnewydd. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.