Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1147 (Cy. 282)

Tai, Cymru

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Gwnaed

13 Hydref 2021

Yn dod i rym

15 Hydref 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 160A(3) a (5) a 172(4)(1) o Ddeddf Tai 1996(2) ac adran 142(2)(a) a (b) Ddeddf Tai (Cymru) 2014(3) a pharagraff 1(2) a (4) o Atodlen 2 iddi.

Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(4).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 a deuant i rym ar 15 Hydref 2021.

Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

2.  Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i reoliad 3

3.  Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(a)hepgorer yr “ac” ar ôl paragraff (h);

(b)ar ddiwedd paragraff (i), yn lle “.” rhodder “;”;

(c)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(j)Dosbarth J – person—

(i)sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo(6);

(ii)nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(iii)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; a

(k)Dosbarth K – person—

(i)y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo(7), pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—

(aa)Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu

(bb)y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu

(ii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—

(aa)sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu

(bb)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw.

Diwygiadau i reoliad 4

4.  Yn rheoliad 4(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(a)hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (g);

(b)ar ddiwedd is-baragraff (h), yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

(i)person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.

Diwygiadau i reoliad 5

5.  Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(a)hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (i);

(b)ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle “.” rhodder “;”;

(c)ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—

(k)Dosbarth K – person—

(i)sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo;

(ii)nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a

(iii)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon; ac

(l)Dosbarth L – person—

(i)y rhoddir caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, pan roddir caniatâd o’r fath yn rhinwedd—

(aa)Polisi Adleoli a Chymorth Affganistan; neu

(bb)y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogir neu a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia); neu

(ii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi nad yw’n dod o fewn paragraff (i), a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond gan eithrio person (P)—

(aa)sy’n ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i P ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol ar P, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; neu

(bb)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag ddyddiad yw’r diweddaraf, ac y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw.

Diwygiadau i reoliad 6

6.  Yn rheoliad 6(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai) —

(a)hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (g);

(b)ar ddiwedd is-baragraff (h), yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

(i)person a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp Llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

13 Hydref 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai gan awdurdod lleol oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. O dan adran 160A(5) caiff Gweinidogion Cymru ragnodi dosbarthau o bersonau sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai.

O dan baragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol). O dan baragraff 1(4) caiff Gweinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol) ragnodi dosbarthau o bersonau sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael cymorth tai.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai. Mae Rheoliadau 2014 hefyd yn gwneud darpariaeth o ran personau nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth digartrefedd.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996. Mae’n rhagnodi dau ddosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth J” a “Dosbarth K”) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.

Mae Dosbarth J yn gymwys i bersonau penodol sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo pan nad oes amod “heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus” yn gysylltiedig â’r math o ganiatâd sydd gan y person a phan fo’r person yn preswylio fel arfer yn yr ‘Ardal Deithio Gyffredin’ (y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon). Mae Dosbarth K yn gymwys i bersonau y rhoddwyd caniatâd iddynt o dan gynlluniau neu bolisïau penodol sy’n ymwneud ag Affganistan. Mae hefyd yn gymwys i bersonau penodol yn y Deyrnas Unedig a adawodd Affganistan oherwydd cwymp Llywodraeth Affganistan.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4(2) o Reoliadau 2014 i ddarparu bod personau penodol nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond y byddent yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin yn gymwys i gael dyraniad o lety tai. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r rheini a adawodd Affganistan oherwydd cwymp Llywodraeth Affganistan.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf 2014. Mae’n rhagnodi dau ddosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth K” a “Dosbarth L”) sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath. Mae’r dosbarthau hyn yn cyfateb i Ddosbarth J a Dosbarth K a fewnosodir gan reoliad 3.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6(2) o Reoliadau 2014 fel bod personau penodol nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ond y byddent wedi eu heithrio rhag cael cymorth tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin, yn gymwys. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r un personau â’r rheini a fewnosodir gan reoliad 4.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 160A(3) a (5) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a’r cofnod mewn perthynas â’r Ddeddf honno yn Atodlen 1, fel y’i darllenir yn unol ag adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002 (p. 7). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

1996 p. 52. Mewnosodwyd adran 160A gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd 2002; diwygiwyd is-adrannau (3) a (5) gan adran 146(2)(d) ac (e) yn y drefn honno o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(4)

Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(5)

O.S. 2014/2603 (Cy. 257), (fel y’i harbedwyd ac y’i haddaswyd gan erthygl 5 o O.S. 2015/1272 (Cy. 88) (C. 73)), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/698 (Cy. 164), 2019/1041 (Cy. 183), 2019/1149 (Cy. 199), rheoliad 76 o 2020/1309, a ddiwygiwyd gan reoliad 26 o 2020/1372 ac a ddiwygiwyd gan 2021/353 (Cy. 105).

(6)

Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’u diwygiwyd. Gosodwyd Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong gerbron Senedd y DU ar 22 Hydref 2020 (HC 813) ac fe’i diwygiwyd wedi hynny gan y datganiad o newidiadau i’r Rheolau Mewnfudo: HC 1248 a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 4 Mawrth 2021.

(7)

Gweler Rhan 7 o’r Rheolau Mewnfudo. Mae’r cynllun wedi ei gynnwys yn Rheolau 276BA1- 276BS2.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill