- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).
Y prif newidiadau yw—
(1) diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas â cheisiadau a gyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf”) ac o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 19 a 74(3) o’r Ddeddf, gan gynnwys darpariaeth i geisydd gyflwyno datganiad achos llawn o fewn cyfnod penodedig os yw’r ceisydd yn dewis gwneud hynny (rheoliad 4 sy’n mewnosod rheoliad 11A newydd yn Rheoliadau 2012);
(2) diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas ag apelau o dan adran 20 o’r Ddeddf i’w gwneud yn ofynnol—
(a)bod hysbysiad o apêl yn dod gyda datganiad achos llawn; a
(b)bod yr apelydd yn anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol (rheoliad 5 sy’n diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 2012);
(3) darpariaeth o dan adran 21(4A) a (4B) o’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adran 47(3) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015) i—
(a)rhagnodi amgylchiad o dan adran 21(4A) lle caniateir amrywio cais ar ôl i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno; a
(b)darparu i gais a amrywir yn y fath fodd fod yn ddarostyngedig i’r fath ymgynghoriad pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol (rheoliad 6 sy’n mewnosod rheoliad 12B newydd yn Rheoliadau 2012).
Mae rheoliad 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys