NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).

Y prif newidiadau yw—

(1)

diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas â cheisiadau a gyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf”) ac o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 19 a 74(3) o’r Ddeddf, gan gynnwys darpariaeth i geisydd gyflwyno datganiad achos llawn o fewn cyfnod penodedig os yw’r ceisydd yn dewis gwneud hynny (rheoliad 4 sy’n mewnosod rheoliad 11A newydd yn Rheoliadau 2012);

(2)

diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas ag apelau o dan adran 20 o’r Ddeddf i’w gwneud yn ofynnol—

(a)

bod hysbysiad o apêl yn dod gyda datganiad achos llawn; a

(b)

bod yr apelydd yn anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol (rheoliad 5 sy’n diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 2012);

(3)

darpariaeth o dan adran 21(4A) a (4B) o’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adran 47(3) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015) i—

(a)

rhagnodi amgylchiad o dan adran 21(4A) lle caniateir amrywio cais ar ôl i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno; a

(b)

darparu i gais a amrywir yn y fath fodd fod yn ddarostyngedig i’r fath ymgynghoriad pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol (rheoliad 6 sy’n mewnosod rheoliad 12B newydd yn Rheoliadau 2012).

Mae rheoliad 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.