Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Capasiti, Cofrestru, Ffurflenni Rhagnodedig, etc.) (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

At ddibenion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p.23) (“Deddf 1975”), mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y canlynol —

(a)sut i gyfrifo capasiti at ddibenion adran A1 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 (rheoliad 3);

(b)y wybodaeth am gyforgronfa ddŵr fawr sydd i’w chofrestru (rheoliad 4); hysbysiad o newidiadau i gofrestr Cymru yn ogystal â chadw ac arolygu’r gofrestr (rheoliad 5 a 6);

(c)llunio adroddiadau gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (“CANC”) i Weinidogion Cymru a chynnwys yr adroddiadau (rheoliad 7);

(d)ffurf y cofnod y mae’n rhaid ei gadw ar gyfer cronfa ddŵr perygl uchel a’r wybodaeth y mae’n rhaid ei nodi yn y cofnod hwnnw (rheoliad 8);

(e)ffurf y tystysgrifau peirianwyr (rheoliad 9); ffurf yr adroddiadau peirianwyr (rheoliad 10) a ffurf y cyfarwyddiadau peirianwyr) (rheoliad 11);

(f)yr wybodaeth y mae’n rhaid i ymgymerwyr ei darparu pan yn bwriadu adeiladu cronfa ddŵr neu ail-ddechrau defnyddio cyforgronfa ddŵr fawr (rheoliad 12); a

(g)llunio adroddiadau gan ymgymerwyr i CANC mewn perthynas â digwyddiadau cysylltiedig â rhyddhau dŵr heb reolaeth o gyforgronfa ddŵr fawr pan fo mesurau brys yn cael eu cymryd (rheoliad 13).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985 (O.S. 1985/177), Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) (Diwygio) 1985 (O.S. 1985/548) a Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Tystysgrifau, Adroddiadau a Gwybodaeth Ragnodedig) 1986 (O.S. 1986/468) (rheoliad 15). Disodlir y Rheoliadau hynny gan y darpariaethau yn rheoliadau 4, 6, 8 i 10 a 12.

Mae adran A1(4) o Ddeddf 1975 yn ei gwneud yn ofynnol i lunio rheoliadau ynglŷn â’r ffordd y dylid cyfrifo capasiti at ddiben sefydlu a yw adeiledd neu fan uwch yn fawr o dan adran A1(3) o Ddeddf 1975. Mae rheoliad 3 yn gwneud y ddarpariaeth hon.

O dan adran 2(2) o Ddeddf 1975 mae’n ofynnol i CANC gadw cofrestr sy’n cynnwys gwybodaeth ragnodedig ynglŷn â chyforgronfeydd mawr. Mae rheoliad 4 yn rhagnodi’r wybodaeth y dylai cofrestr Cymru ei chynnwys am gyforgronfeydd mawr.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod yr ymgymerwr i CANC yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau neu newidiadau arfaethedig a wnaed neu y cynigir eu gwneud i’r wybodaeth y mae gofyn ei chadw ar gofrestr Cymru. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod cofrestr Cymru a chopïau ohoni yn cael eu cadw ym mhrif swyddfa CANC a bod CANC yn sicrhau bod gwybodaeth benodol y mae’n ofynnol iddi fod yng Nghofrestr Cymru ynddi.

Mae rheoliad 7 yn pennu amseriad yr adroddiadau y mae’n rhaid i’r CANC eu paratoi i Weinidogion Cymru o dan adran 3(1) o Ddeddf 1975; yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno yn yr adroddiadau hynny.

Mae rheoliad 8 yn rhagnodi’r ffurfy mae’n ofynnol i gofnod o dan adran 11(1) o Ddeddf 1975 gael ei gadw arni gan ymgymerwr cronfa ddŵr perygl uchel a’r materion y mae’n rhaid i ymgymerwyr cronfeydd dŵr perygl uchel gadw cofnod ohonynt yn ogystal â’r rhai a nodir yn adran 11(1)(a) a (b) o Ddeddf 1975.

Mae rheoliadau 9 i 11 yn rhagnodi, fel y darperir gan adran 20(1) o Ddeddf 1975, ffurf yr amrywiol dystysgrifau, cyfarwyddiadau ac adroddiadau pan fo Deddf 1975 yn gofyn bod tystysgrifau neu gyfarwyddiadau’n cael eu rhoi neu adroddiad yn cael ei baratoi gan beiriannydd sifil sy’n ymwneud â gwaith cysylltiedig â chyforgronfa ddŵr fawr.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975 y mae’n ofynnol i ymgymerwr, sy’n bwriadu adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr neu ail-ddechrau defnyddio cyforgronfa ddŵr fawr, ei gyflwyno i CANC.

Mae rheoliad 13 yn rhagnodi ffurf adroddiad y mae’n rhaid ei baratoi o dan adran 21B o’r Ddeddf, ac yn pennu’r digwyddiadau y dylid gwneud adroddiad o’r fath mewn cysylltiad â hwy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill