Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”).

Y prif newidiadau yw’r canlynol—

  • Mae erthygl 4 yn mewnosod Rhan 1A (ymgynghori cyn ymgeisio) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol yn erthygl 22 o Orchymyn 2012 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau).

  • Mae erthygl 5 yn amnewid Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio).

  • Mae erthyglau 6 a 7 yn gwneud diwygiadau i erthyglau 15A a 15B o Orchymyn 2012 (dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad).

  • Mae erthygl 8 yn mewnosod erthyglau 15C i 15F yng Ngorchymyn 2012, sy’n ymwneud ag ymgynghori ar geisiadau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio, megis ceisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl neu gydsyniadau gofynnol eraill.

  • Mae erthygl 9 yn amnewid erthygl 7 o Orchymyn 2012 (datganiadau dylunio a mynediad).

  • Mae erthygl 10 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd ar ganiatâd blaenorol.

  • Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 22 o Orchymyn 2012 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygio ar ôl cyflwyno.

  • Mae erthygl 12 yn mewnosod erthygl 24A yng Ngorchymyn 2012 er mwyn ymdrin â hysbysiadau penderfynu. Mae erthygl 12 hefyd yn mewnosod erthygl 24B yng Ngorchymyn 2012, i ddarparu ar gyfer rhoi hysbysiad i awdurdod cynllunio lleol cyn dechrau datblygiad mawr ac arddangos hysbysiad tra cyflawnir datblygiad mawr.

  • Mae erthygl 13 yn diwygio Gorchymyn 2012 i wneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniad gan awdurdod cynllunio lleol fod cais yn annilys.

  • Mae erthygl 14 yn diwygio erthygl 27 o Orchymyn 2012 er mwyn caniatáu i orchmynion datblygu lleol roi caniatâd ar gyfer datblygiad sy’n ddatblygiad Atodlen 2 at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill