(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”).
Y prif newidiadau yw’r canlynol—
Mae erthygl 4 yn mewnosod Rhan 1A (ymgynghori cyn ymgeisio) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol yn erthygl 22 o Orchymyn 2012 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau).
Mae erthygl 5 yn amnewid Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio).
Mae erthyglau 6 a 7 yn gwneud diwygiadau i erthyglau 15A a 15B o Orchymyn 2012 (dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad).
Mae erthygl 8 yn mewnosod erthyglau 15C i 15F yng Ngorchymyn 2012, sy’n ymwneud ag ymgynghori ar geisiadau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio, megis ceisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl neu gydsyniadau gofynnol eraill.
Mae erthygl 9 yn amnewid erthygl 7 o Orchymyn 2012 (datganiadau dylunio a mynediad).
Mae erthygl 10 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd ar ganiatâd blaenorol.
Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 22 o Orchymyn 2012 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygio ar ôl cyflwyno.
Mae erthygl 12 yn mewnosod erthygl 24A yng Ngorchymyn 2012 er mwyn ymdrin â hysbysiadau penderfynu. Mae erthygl 12 hefyd yn mewnosod erthygl 24B yng Ngorchymyn 2012, i ddarparu ar gyfer rhoi hysbysiad i awdurdod cynllunio lleol cyn dechrau datblygiad mawr ac arddangos hysbysiad tra cyflawnir datblygiad mawr.
Mae erthygl 13 yn diwygio Gorchymyn 2012 i wneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniad gan awdurdod cynllunio lleol fod cais yn annilys.
Mae erthygl 14 yn diwygio erthygl 27 o Orchymyn 2012 er mwyn caniatáu i orchmynion datblygu lleol roi caniatâd ar gyfer datblygiad sy’n ddatblygiad Atodlen 2 at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016.
Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.