- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2. Yn y Gorchymyn hwn—
mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw adeiledd neu adeiladwaith, ac unrhyw ran o adeilad, fel y’i diffinnir yn yr erthygl hon, ond nid yw’n cynnwys unrhyw beiriannau na pheirianwaith nac unrhyw adeiledd sydd o natur peiriannau neu beirianwaith;
ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”), ac eithrio yn achos erthyglau 25 a 26, yw’r awdurdod cynllunio lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, yn gwneud y cais iddo;
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sydd naill ai’n bwriadu gwneud cais neu wedi gwneud y cyfryw gais;
mae “codi” (“erection”), mewn perthynas ag adeiladau fel y’u diffinnir yn yr erthygl hon, yn cynnwys estyn, newid neu ailgodi;
mae i “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (dehongli cyffredinol)(1);
mae i “cyfeiriad” (“address”) yr ystyr a roddir yn erthygl 3(1)(a);
mae i “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4;
mae i “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA;
mae i “datganiad dylunio a mynediad” (“design and access statement”) yr ystyr a roddir yn erthygl 14(1);
ystyr “Deddf 1990” (“1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl Banc nac yn ddydd gŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;
ystyr “drwy arddangos ar y safle” (“by site display”) yw drwy osod yr hysbysiad ynghlwm yn gadarn wrth wrthrych, a’i leoli a’i ddangos mewn modd sy’n caniatáu i aelodau’r cyhoedd weld yr hysbysiad a’i ddarllen yn rhwydd;
ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(2);
ystyr “y Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau” (“the Application of Enactments Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016(3);
ystyr “gweithrediadau mwyngloddio” (“mining operations”) yw cloddio a gweithio mwynau mewn, ar, neu o dan y tir, pa un ai drwy weithio ar yr wyneb neu’n danddaearol;
mae i “hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig” (“notification of proposed development”) yr ystyr a roddir yn erthygl 5(2);
ystyr “y Rheoliadau AEA” (“the EIA Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(4)
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti gynghorydd i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”), mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad(5) y mae’r cais neu’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a nodir yn y Tabl yn Atodlen 5, yw’r awdurdod, y person neu’r corff a grybwyllir mewn perthynas â’r categori hwnnw; ac
ystyr “ymgynghorai cymunedol” (“community consultee”) yw—
pob cynghorydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli ward etholiadol y lleolir ynddi dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a
pob cyngor cymuned y lleolir yn ei ardal dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef.
2000 p. 7; diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.
Ar gyfer y diffiniad o “development” (“datblygiad”) gweler adran 55 o Ddeddf 1990. Gweler hefyd reoliad 56 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/58) (Cy.28).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys