RHAN 1Rhagarweiniol

Dehongli2.

Yn y Gorchymyn hwn—

mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw adeiledd neu adeiladwaith, ac unrhyw ran o adeilad, fel y’i diffinnir yn yr erthygl hon, ond nid yw’n cynnwys unrhyw beiriannau na pheirianwaith nac unrhyw adeiledd sydd o natur peiriannau neu beirianwaith;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”), ac eithrio yn achos erthyglau 25 a 26, yw’r awdurdod cynllunio lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, yn gwneud y cais iddo;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sydd naill ai’n bwriadu gwneud cais neu wedi gwneud y cyfryw gais;

mae “codi” (“erection”), mewn perthynas ag adeiladau fel y’u diffinnir yn yr erthygl hon, yn cynnwys estyn, newid neu ailgodi;

mae i “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (dehongli cyffredinol)10;

mae i “cyfeiriad” (“address”) yr ystyr a roddir yn erthygl 3(1)(a);

mae i “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4;

mae i “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA;

mae i “datganiad dylunio a mynediad” (“design and access statement”) yr ystyr a roddir yn erthygl 14(1);

ystyr “Deddf 1990” (“1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl Banc nac yn ddydd gŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

ystyr “drwy arddangos ar y safle” (“by site display”) yw drwy osod yr hysbysiad ynghlwm yn gadarn wrth wrthrych, a’i leoli a’i ddangos mewn modd sy’n caniatáu i aelodau’r cyhoedd weld yr hysbysiad a’i ddarllen yn rhwydd;

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 201211;
ystyr “y Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau” (“the Application of Enactments Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 201612;

ystyr “gweithrediadau mwyngloddio” (“mining operations”) yw cloddio a gweithio mwynau mewn, ar, neu o dan y tir, pa un ai drwy weithio ar yr wyneb neu’n danddaearol;

mae i “hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig” (“notification of proposed development”) yr ystyr a roddir yn erthygl 5(2);

ystyr “y Rheoliadau AEA” (“the EIA Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201613

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti gynghorydd i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”), mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad14 y mae’r cais neu’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a nodir yn y Tabl yn Atodlen 5, yw’r awdurdod, y person neu’r corff a grybwyllir mewn perthynas â’r categori hwnnw; ac

ystyr “ymgynghorai cymunedol” (“community consultee”) yw—

(a)

pob cynghorydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli ward etholiadol y lleolir ynddi dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)

pob cyngor cymuned y lleolir yn ei ardal dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef.