- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
>(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
>Mae’r Gorchymyn hwn yn rhestru’r holl gyrff y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy’n cael eu cydnabod o fewn ystyr adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae cyrff o’r fath naill ai:
(a)>yn brifysgolion, yn golegau neu’n gyrff a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu oddi tani i ddyfarnu graddau; neu
(b)>yn gyrff a ganiateir am y tro gan unrhyw gorff sy’n dod o fewn paragraff (a) i weithredu ar ei ran wrth ddyfarnu graddau.
>Mae’r Gorchymyn yn diweddaru ac yn disodli’r rhestr o gyrff sydd wedi ei chynnwys yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy’n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn 2012. Mae nifer o gyrff wedi eu hepgor o’r rhestr gan nad oes ganddynt bellach bwerau i ddyfarnu graddau neu am eu bod wedi uno â chyrff eraill. Mae nifer o gyrff newydd wedi eu mewnosod gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cyrff hyn bellach yn dod o fewn naill ai paragraff (a) neu (b) uchod. Mae nifer o fân ddiwygiadau wedi eu gwneud hefyd i gymryd i ystyriaeth y newidiadau i enwau a wnaed ers Gorchymyn 2012.
>Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys