>Mae’r Gorchymyn hwn yn rhestru’r holl gyrff y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy’n cael eu cydnabod o fewn ystyr adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae cyrff o’r fath naill ai:
>yn brifysgolion, yn golegau neu’n gyrff a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu oddi tani i ddyfarnu graddau; neu
>yn gyrff a ganiateir am y tro gan unrhyw gorff sy’n dod o fewn paragraff (a) i weithredu ar ei ran wrth ddyfarnu graddau.
>Mae’r Gorchymyn yn diweddaru ac yn disodli’r rhestr o gyrff sydd wedi ei chynnwys yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy’n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn 2012. Mae nifer o gyrff wedi eu hepgor o’r rhestr gan nad oes ganddynt bellach bwerau i ddyfarnu graddau neu am eu bod wedi uno â chyrff eraill. Mae nifer o gyrff newydd wedi eu mewnosod gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cyrff hyn bellach yn dod o fewn naill ai paragraff (a) neu (b) uchod. Mae nifer o fân ddiwygiadau wedi eu gwneud hefyd i gymryd i ystyriaeth y newidiadau i enwau a wnaed ers Gorchymyn 2012.
>Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.