Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 821 (Cy. 97)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

9 Ebrill 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Ebrill 2013

Yn dod i rym

1 Mai 2013

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2) ac o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2013; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Mai 2013.

Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

2.  Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98” (“Commission Regulation (EC) No 494/98”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isaf o sancsiynau gweinyddol yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(5);.

4.  Yn rheoliad 10 (pwerau arolygwyr), yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98;.

5.  Yn rheoliad 12 (cigydda anifeiliaid heb eu marcio), hepgorer “awdurdod milfeddygol a'r”.

Atodlen 2 (cofrestru gwartheg)

6.  Ym mharagraff 2(3) o Atodlen 2, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;.

Atodlen 3 (pasbortau gwartheg)

7.  Ym mharagraff 11 o Atodlen 3, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i feddiannydd lladd-dy.

Atodlen 4 (hysbysiad o symud neu farwolaeth)

8.  Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 1(1), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;; a

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn lle is-baragraffau (1) i (3) rhodder—

(1) Pan gigyddir anifail mewn lladd-dy, rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth o fewn saith niwrnod—

(a)drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol Gweinidogion Cymru;

(b)drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;

(c)drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu

(ch)drwy gwblhau'r manylion am y farwolaeth ym mhasbort yr anifail a'i ddychwelyd i Weinidogion Cymru,

a rhaid iddo ddychwelyd pasbort yr anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod.

(2) Os cigyddir anifail y tu allan i ladd-dy ond ei fod yn cael ei anfon i ladd-dy er mwyn ei drin, rhaid i'r ceidwad lenwi'r manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon gyda'r anifail i'r lladd-dy, a rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy ddychwelyd y pasbort i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod ar ôl marwolaeth yr anifail.

(3) Yn unrhyw achos arall, pan fydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd rhaid i'r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth o fewn saith niwrnod—

(a)drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol Gweinidogion Cymru;

(b)drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;

(c)drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu

(ch)drwy gwblhau'r manylion am y farwolaeth ym mhasbort yr anifail a'i ddychwelyd i Weinidogion Cymru,

a rhaid iddo ddychwelyd pasbort yr anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod.

(3A) Ond pan fo arolygydd wedi cymryd ac wedi cadw pasbort anifail o dan reoliad 10(3)(ch), nid yw gofyniad o dan y paragraff hwn i ddychwelyd y pasbort i Weinidogion Cymru yn gymwys cyhyd ag y mae'r pasbort yn cael ei gadw yn y fath fodd., a

(ii)hepgorer is-baragraff (5).

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

9 Ebrill 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (O.S. 2007/842) (Cy.74).

Mae rheoliadau 3 a 4 yn diweddaru'r cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE. Mae rheoliad 5 yn egluro swyddogaeth yr awdurdod cymwys mewn perthynas ag anifeiliaid sydd heb eu hadnabod.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth i ychwanegu system ffôn awtomataidd newydd at y rhestr o ddulliau y caiff ceidwaid eu defnyddio i gofrestru anifeiliaid gyda Gweinidogion Cymru.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth i gael gwared ar yr angen i feddianwyr lladd-dai nodi manylion penodol ym mhasbortau'r anifeiliaid y maent wedi eu cigydda.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth i ganiatáu i geidwaid adrodd ar symudiadau anifeiliaid drwy ddefnyddio'r system ffôn awtomataidd newydd fel dull o hysbysu a hefyd i adrodd am farwolaethau anifeiliaid drwy ddefnyddio dulliau electronig yn ogystal ag ar bapur, ac eithrio yn achos anifeiliaid a gigyddir y tu allan i ladd-dy ac a anfonir i ladd-dy er mwyn eu trin. Rhaid dychwelyd pasbort anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod i'r farwolaeth onid yw arolygydd wedi ei gadw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 20062006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o'r Atodlen iddi.

(2)

O.S. 2010/2690.

(3)

O.S. 2008/1792.

(4)

O.S. 2007/842 (Cy.74) a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3004 (Cy.260).

(5)

OJ Rhif L 60, 28.2.1998, t.78, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1053/2010 (OJ Rhif L 303, 19.11.2010, t.1).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill