Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gwnaed
9 Ebrill 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Ebrill 2013
Yn dod i rym
1 Mai 2013
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2) ac o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd(3).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2013; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Mai 2013.
2. Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98” (“Commission Regulation (EC) No 494/98”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isaf o sancsiynau gweinyddol yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(5);”.
4. Yn rheoliad 10 (pwerau arolygwyr), yn lle paragraff (1)(c) rhodder—
“(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98;”.
5. Yn rheoliad 12 (cigydda anifeiliaid heb eu marcio), hepgorer “awdurdod milfeddygol a'r”.
6. Ym mharagraff 2(3) o Atodlen 2, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;”.
7. Ym mharagraff 11 o Atodlen 3, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i feddiannydd lladd-dy.”
8. Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 1(1), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;”; a
(b)ym mharagraff 2—
(i)yn lle is-baragraffau (1) i (3) rhodder—
“(1) Pan gigyddir anifail mewn lladd-dy, rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth o fewn saith niwrnod—
(a)drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol Gweinidogion Cymru;
(b)drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;
(c)drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(ch)drwy gwblhau'r manylion am y farwolaeth ym mhasbort yr anifail a'i ddychwelyd i Weinidogion Cymru,
a rhaid iddo ddychwelyd pasbort yr anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod.
(2) Os cigyddir anifail y tu allan i ladd-dy ond ei fod yn cael ei anfon i ladd-dy er mwyn ei drin, rhaid i'r ceidwad lenwi'r manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon gyda'r anifail i'r lladd-dy, a rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy ddychwelyd y pasbort i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod ar ôl marwolaeth yr anifail.
(3) Yn unrhyw achos arall, pan fydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd rhaid i'r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth o fewn saith niwrnod—
(a)drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol Gweinidogion Cymru;
(b)drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;
(c)drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(ch)drwy gwblhau'r manylion am y farwolaeth ym mhasbort yr anifail a'i ddychwelyd i Weinidogion Cymru,
a rhaid iddo ddychwelyd pasbort yr anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod.
(3A) Ond pan fo arolygydd wedi cymryd ac wedi cadw pasbort anifail o dan reoliad 10(3)(ch), nid yw gofyniad o dan y paragraff hwn i ddychwelyd y pasbort i Weinidogion Cymru yn gymwys cyhyd ag y mae'r pasbort yn cael ei gadw yn y fath fodd.”, a
(ii)hepgorer is-baragraff (5).
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (O.S. 2007/842) (Cy.74).
Mae rheoliadau 3 a 4 yn diweddaru'r cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE. Mae rheoliad 5 yn egluro swyddogaeth yr awdurdod cymwys mewn perthynas ag anifeiliaid sydd heb eu hadnabod.
Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth i ychwanegu system ffôn awtomataidd newydd at y rhestr o ddulliau y caiff ceidwaid eu defnyddio i gofrestru anifeiliaid gyda Gweinidogion Cymru.
Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth i gael gwared ar yr angen i feddianwyr lladd-dai nodi manylion penodol ym mhasbortau'r anifeiliaid y maent wedi eu cigydda.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth i ganiatáu i geidwaid adrodd ar symudiadau anifeiliaid drwy ddefnyddio'r system ffôn awtomataidd newydd fel dull o hysbysu a hefyd i adrodd am farwolaethau anifeiliaid drwy ddefnyddio dulliau electronig yn ogystal ag ar bapur, ac eithrio yn achos anifeiliaid a gigyddir y tu allan i ladd-dy ac a anfonir i ladd-dy er mwyn eu trin. Rhaid dychwelyd pasbort anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod i'r farwolaeth onid yw arolygydd wedi ei gadw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 20062006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o'r Atodlen iddi.
O.S. 2010/2690.
O.S. 2008/1792.
O.S. 2007/842 (Cy.74) a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3004 (Cy.260).
OJ Rhif L 60, 28.2.1998, t.78, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1053/2010 (OJ Rhif L 303, 19.11.2010, t.1).