Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 802 (Cy.111)(C.20)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012

Gwnaed

10 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwer a roddwyd gan adran 241(3) o Ddeddf Cynllunio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enw

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012.

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Ebrill 2012 o ran Cymru

2.  Bydd darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym o ran Cymru ar 30 Ebrill 2012—

(a)adran 188;

(b)adran 197 ac Atodlen 11; ac

(c)adran 238 ac Atodlen 13, i'r graddau y maent yn rhoi effaith i'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2012

Erthygl 2

YR ATODLENDiddymiadau (Cymru)

CyfeiriadGraddau'r diddymu
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8)Adran 61A(1) Yn Atodlen 4A, paragraff 2(4) a (5)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 30 Ebrill 2012, ddarpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 o ran Cymru, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

adran 188 (gorchmynion datblygu lleol: dileu'r gofyniad i weithredu polisïau);

adran 197 ac Atodlen 11 (apelau: diwygiadau amrywiol); ac

adran 238 ac Atodlen 13 i'r graddau y maent yn rhoi effaith i'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sy'n ymwneud â gorchmynion datblygu lleol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 wedi eu dwyn i rym gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)1 Hydref 20092009/2260
Paragraffau 24 i 27 o Atodlen 11 Hydref 20092009/2573
Adrannau 5 i 12 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)6 Ebrill 20092009/400
Adran 14 yn rhannol (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Mawrth 20102010/101
Adran 14 yn rhannol (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)8 Mawrth 20112011/705
Adran 14 yn rhannol (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)18 Awst 20112011/2054
Adrannau 15 i 20 o ran Cymru a Lloegr1 Mawrth 20102010/101
Adran 211 Mawrth 20102010/101
Adrannau 22 i 26 o ran Cymru a Lloegr1 Mawrth 20102010/101
Adran 298 Mawrth 20112011/705
Adrannau 31 i 351 Mawrth 20102010/101
Adran 36 ac Atodlen 21 Mawrth 20102010/101
Adrannau 37 i 40 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)1 Hydref 20092009/2260
Adrannau 41 i 50 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)1 Hydref 20092009/2260
Adrannau 51 i 54 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)1 Hydref 20092009/2260
Adran 551 Mawrth 20102010/101
Adrannau 56 i 59 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)1 Hydref 20092009/2260
Adrannau 60 i 117 ac Atodlen 31 Mawrth 20102010/101
Adran 118 o ran Cymru a Lloegr1 Mawrth 20102010/101
Adran 119 ac Atodlen 41 Mawrth 20102010/101
Adran 120 i 121 ac Atodlen 51 Mawrth 20102010/101
Adrannau 122 i 1321 Mawrth 20102010/101
Adran 133 o ran ymru a Lloegr1 Mawrth 20102010/101
Adrannau 134 i 1381 Mawrth 20102010/101
Adrannau 139 i 149 o ran Cymru a Lloegr1 Mawrth 20102010/101
Adrannau 150 i 1521 Mawrth 20102010/101
Adran 153 ac Atodlen 618 Awst 20112011/2054
Adrannau 154 i 1591 Mawrth 20102010/101
Adrannau 160 i 1741 Mawrth 20102010/101
Adran 175 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)6 Ebrill 20092009/400
Adran 175 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Mawrth 20102010/101
Adran 176 yn rhannol o ran yr Alban6 Ebrill 20092009/400
Adran 176 yn rhannol o ran yr Alban1 Mawrth 20102010/101
Adran 177 o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 178 o ran yr Alban6 Ebrill 20092009/400
Adran 179 o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adrannau 180 i 182 o ran Cymru a Lloegr (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)6 Ebrill 20092009/400
Adran 183 o ran Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 184 o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 185 o ran Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 187 a pharagraffau 1, 2(1) a (2), 3(1), (2) a (4) a 4 i 6 o Atodlen 7 o ran Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Paragraffau 2(3) a (4) a 3(3) o Atodlen 7 o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 188 o ran Lloegr23 Mehefin 20092009/1303
Adran 189 o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20102010/566
Adran 190 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr1 Hydref 20092009/2260
Adran 190(4) o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20102010/566
Adran 191(1) a (3) o ran Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 191(2) o ran Cymru6 Ebrill 20092009/400
Adran 194 a pharagraffau 1 i 4 a pharagraff 6 o Atodlen 9 o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 195 o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 196 a pharagraffau 1, 3 i 6, a 10 i 14 o Atodlen 10 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 197 ac Atodlen 11, adran 198 ac 199 o ran Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 200 o ran Lloegr, (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Hydref 20092009/2260
Adran 206 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 206 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)6 Ebrill 20102010/566
Adran 211(7) o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 224(1) a (4) o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 238 ac Atodlen 13 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 238 ac Atodlen 13 yn rhannol o ran Lloegr6 Ebrill 20092009/400
Adran 238 ac Atodlen 13 yn rhannol o ran Lloegr23 Mehefin 20092009/1303
Adran 238 ac Atodlen 13 yn rhannol o ran Lloegr6 Ebrill 20102010/566

Gweler hefyd adran 241(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 26 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill